Llygaid y byd tennis ar dwrnamaint 'hynod gyffrous' yn Wrecsam

Mae Harmony Tan o Ffrainc yn un o'r chwaraewyr fydd yn gobeithio creu argraff yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf erioed, fe fydd y twrnamaint tennis mwyaf i fenywod ym Mhrydain - y tu allan i'r tymor ar lawnt - yn cael ei gynnal yn Wrecsam.
Bydd Pencampwriaeth Agored Lexus Wrecsam, digwyddiad sy'n rhan o gylchdaith Tennis y Byd yr International Tennis Federation (ITF) yn cynnwys sêr o Brydain a thu hwnt.
Bydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Tenis a Padel Wrecsam rhwng Hydref 19-26, ac fe fydd y ganolfan yn cael ei thrawsnewid gyda 600 o seddi yn cael eu gosod o amgylch y prif gwrt.
Yn ôl Dave Courteen, sy'n hyrwyddo'r digwyddiad, "dyma fydd y twrnamaint mwyaf i gael ei gynnal yng Ngogledd Cymru".

Mae 20 o gyrtiau tennis yn y ganolfan yn Wrecsam erbyn hyn
Mae £2.5m wedi'i wario ar adnewyddu'r ganolfan ar Heol Plas Coch yn ddiweddar, diolch yn bennaf i Gronfa Ffyniant Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae'r ganolfan wedi derbyn cymorth gan Chwaraeon Cymru a Chyngor Wrecsam hefyd, yn ogystal â chymhorthdal gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y goleuadau yn cyrraedd safonau tennis rhyngwladol yr ITF.
'Digwyddiad tennis mwyaf gogledd Cymru'
Ychwanegodd Dave Courteen, sy'n cyd-weithio'n agos gyda'r Gymdeithas Tennis Lawnt eu bod yn "hynod gyffrous" i ddod â'r digwyddiad i Wrecsam.
"Dyma fydd y twrnamaint mwyaf i gael ei gynnal yng ngogledd Cymru, a hefyd y digwyddiad tennis mwyaf i ferched yng Nghymru ers Pencampwriaeth Rover yng Nghaerdydd 'nôl yn 1996.
"Cafodd Marketa Vondrousova ei choroni'n bencampwraig Wimbledon yn 2023 dim ond wyth mis ar ôl iddi ennill y twrnamaint hwn yn Amwythig.
"Mae'n arwydd clir o werth a phroffil y gystadleuaeth, a'r chwaraewyr safonol mae'n ei ddenu."

Mae disgwyl i'r Gymraes ifanc Mimi Xu gystadlu yn y bencampwriaeth
Mae nifer o sêr rhyngwladol sydd yn y 100 uchaf ar restr detholion y byd, ynghyd â sawl un o brif chwaraewyr Prydain ymhlith y rhai sydd wedi chwarae yn y bencampwriaeth.
Mae Katie Boulter, Harriet Dart, Heather Watson, Jodie Burrage a'r bencampwraig y llynedd Sonay Kartal yn rai o'r enwau mwyaf adnabyddus o'u plith.
Ychwanegodd Mr Courteen: "Ry' ni'n gwybod bod Wrecsam yn enwog am bêl-droed, felly rydym eisiau i'r digwyddiad hwn fod yn fodd arall o ddathlu pa mor wych yw'r ddinas.
"Rydym yn cyd-weithio'n agos gyda Thenis Cymru, ymddiriedolwyr y ganolfan denis, Cyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y twrnamaint yn arddangos yr hyn oll sy'n hyfryd am y ddinas."

Mae Buddug o Gaerdydd yn edrych ymlaen yn arw at ddilyn y cystadlu
Mae Buddug, sy'n wreiddiol o Gaerdydd ac yn chwarae tennis dros Dde Cymru, yn aelod o Glwb Tennis Wrecsam ac yn edrych ymlaen at wylio'r twrnamaint a gweld sêr fel Mimi Xu o Gymru yn chwarae.
"Mae'r twrnamaint yn dod â phoblogrwydd i'r ardal a sylw i'r gamp," meddai.
"Mae lot o ddigwyddiadau yn digwydd yn y ddinas ddydd Sul fel rhan o'r gystadleuaeth ac maen nhw'n defnyddio'r Gymraeg fel rhan o'r digwyddiadau."
Dywedodd Caroline Lacy, Pennaeth Cysylltiadau Tenis a Datblygiadau Digwyddiadau gyda'r Lawn Tennis Assocciation (LTA):
"Rydym wrth ein boddau bod tennis proffesiynol y menywod yn dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf mewn bron i dri degawd.
"Mae'r LTA yn falch iawn i gyd-weithio gyda'n holl bartneriaid i lwyfannu'r digwyddiad hwn yng Nghanolfan Tennis a Padel Wrecsam, gan gynyddu pa mor weledol yw'r gamp tu allan i fisoedd yr haf gan wneud tennis yn fwy agored i fwy o bobl ar draws Prydain."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.