Rhybudd dadleithydd wedi tân difrifol mewn tŷ

- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth tân yn rhybuddio am beryglon defnyddio dadleithydd [dehumidifier] yn y cartref yn dilyn tân fore Iau.
Cafodd criwiau eu galw i dân difrifol yng Nghastell-nedd am 09:20 mewn seler tŷ.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru mai dadleithydd oedd achos y tân, am ei fod yn rhy fach i'r ystafell ac wedi gorboethi.
Wrth i'r gaeaf agosáu, mae'r gwasanaeth yn dweud y gallai mwy o bobl fod yn defnyddio'r peiriannau i helpu sychu dillad o fewn eu cartrefi.
Maen nhw'n annog pobl i gymryd gofal, er na chafodd unrhyw un anaf yn y digwyddiad fore Iau.
Maen nhw hefyd yn atgoffa pobl i gau drysau o fewn eu cartrefi, gan fod drws y seler ar gau yn y digwyddiad, roedd wedi atal niwed difrifol gan fwg i weddill yr adeilad.