Gallai pleidleiswyr ddiswyddo ASau sy'n camymddwyn

SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw i'r cynnig weithio ochr yn ochr â system bleidleisio newydd y Senedd yn 2026

  • Cyhoeddwyd

Gallai pleidleiswyr gael y cyfle i ddiswyddo Aelodau o'r Senedd os ydyn nhw'n camymddwyn, dan gynlluniau newydd.

Gallai ASau sy'n torri rheolau ymddygiad wynebu pleidlais ar ffurf refferendwm ynghylch a ddylen nhw barhau i wasanaethu ym Mae Caerdydd.

Yn wahanol i isetholiadau adalw San Steffan, byddai'r gwleidydd yn cael ei ddisodli gan rywun arall o'r un blaid.

Ond mae cynigion Pwyllgor Safonau'r Senedd wedi cael eu beirniadu gan grŵp diwygio etholiadol, a ddywedodd y gallai pleidleiswyr fod ar eu colled ac na fydd modd iddyn nhw ddewis pwy sy'n disodli'r AS sydd wedi camymddwyn.

Bydd angen i'r cynlluniau gael eu gwneud yn gyfraith drwy fil gan Lywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion wedi addo ceisio pasio'r bil cyn yr etholiad nesaf ym mis Mai 2026.

Dywedodd Hannah Blythyn, cadeirydd y pwyllgor a luniodd y cynigion: "Rhaid i wleidyddion ymddwyn mewn ffordd weddus a gonest.

"O beidio â gwneud hynny, dylen nhw fod yn atebol i'r cyhoedd am eu gweithredoedd."

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dylai ASau "fod yn atebol i'r cyhoedd am eu gweithredoedd," meddai Hannah Blythyn

Ar hyn o bryd, os yw hi'n dod i'r amlwg fod Aelod o'r Senedd wedi torri'r cod ymddygiad mae modd eu hatal am gyfnod o amser, ond yn wahanol i San Steffan ni ellir eu gwahardd yn llwyr.

Mae'n golygu pan wnaeth y Senedd gytuno'n unfrydol i wahardd Rhys ab Owen o'r sefydliad am chwe wythnos am gyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy fenyw ar noson allan, nid oedd yn wynebu'r posibilrwydd o gael ei ddiarddel fel AS.

Pe bai'n AS yn San Steffan, byddai wedi bod yn destun deiseb adalw a fyddai, pe bai wedi'i harwyddo gan 10% o'i etholwyr, wedi sbarduno isetholiad.

Bu galwadau ers tro i'r system newid, ond mae'r mater wedi dod i'r pen yn ddiweddar wrth i'r Senedd baratoi i ehangu i 96 aelod gyda system etholiadol newydd.

Sut fyddai'r broses yn gweithio?

Gan gofio'r newidiadau sydd ar y gweill i'r drefn bleidleisio yn yr etholiad nesaf, dyma enghraifft o sefyllfa bosib i ddangos sut fyddai cynlluniau'r pwyllgor safonau yn gweithio:

Mae Plaid A yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth.

Mae Ymgeisydd 1 yn cael ei ethol, ond yna'n camymddwyn i'r fath raddau bod y pwyllgor safonau'n argymell proses adalw.

Os ydy'r Senedd yn cymeradwyo hynny, byddai pleidlais yn digwydd chwe wythnos yn ddiweddarach, ble gall etholwyr Ymgeisydd 1 benderfynu a ddylai'r person hwnnw gadw ei sedd, neu a ddylai'r sedd fynd at y person nesaf ar restr wreiddiol Plaid A.

Bydd hynny'n wir hyd yn oed os oedd Ymgeisydd 1 wedi gadael Plaid A erbyn hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r cynllun "leihau atebolrwydd," meddai Nia Thomas ar ran ERS Cymru

Dywedodd Nia Thomas ar ran ERS Cymru - sy'n ymgyrchu "dros well democratiaeth yng Nghymru, a ledled y DU" - y gallai'r cynllun "leihau atebolrwydd" gan ei bod yn bosib y gallai etholwyr feddwl bod plaid yn cael ei "gwobrwyo" am ymddygiad gwael un o'i haelodau.

"Dydy hynny ddim really yn deg. Os ydyn ni eisiau system deg, mae'n rhaid i ni feddwl am leisiau'r pleidleiswyr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae angen iddyn nhw [ASau] ateb i rywun hefyd fi'n credu" meddai Sophie Holloway

Dywedodd Sophie Holloway o Aberhonddu ym Mhowys: "Os y'n ni yn y gwaith a ni'n 'neud rhywbeth o'i le, mae angen i ni ateb i rywun so mae angen iddyn nhw ateb i rywun hefyd fi'n credu."

Mae Gretta Williams yn dweud ei bod hi'n cytuno gyda'r syniad hefyd: "Os y'n nhw wedi torri'r rheolau, ie, pam lai? Kick 'em out!"

"Mae wastad rhywun ti'n gorfod ateb i," meddai Rhian Thomas, "a fel 'na dyle fe fod ar y top hefyd – dylen nhw fod yn accountable."

Wrth ddatblygu argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, clywodd aelodau'r Pwyllgor Safonau dystiolaeth gan academyddion annibynnol a sefydliadau sydd ag arbenigedd yn y maes hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ymateb i'r adroddiad a'r argymhellion.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas â diarddel aelodau ac ymgeiswyr a geir yn euog o dwyll bwriadol.

"Rydym yn cadw lle ym mlwyddyn pump o'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer unrhyw ddeddfwriaeth a allai fod yn ofynnol."

Pynciau cysylltiedig