Prif sgoriwr y Cymru Premier yn symud i Sawdi Arabia
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr Y Seintiau Newydd, Brad Young wedi cwblhau trosglwyddiad hanesyddol i glwb Al-Orobah yn Sawdi Arabia.
Y gred yw mai'r ffi - £190,000 - yw'r mwyaf erioed i glwb o gynghreiriau Cymru ei dderbyn am chwaraewr.
Young, 21, oedd prif sgoriwr y Cymru Premier y tymor diwethaf, a bu'n rhan fawr o'r ymgyrch i gyrraedd rownd y gynghrair yng Nghyngres UEFA.
Fodd bynnag, dywedodd y Seintiau eu bod wedi derbyn cynnig “eithriadol” gan Al-Orobah amdano.
Bydd pencampwyr Cymru yn wynebu Fiorentina a Panathinaikos yn eu gemau yng Nghyngres UEFA dros yr wythnosau nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst
- Cyhoeddwyd29 Awst
- Cyhoeddwyd30 Awst