Y Seintiau Newydd yn creu hanes yn Ewrop

Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, Reuters
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd wedi llwyddo i gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Nhw fydd y clwb dynion cyntaf erioed o Gymru i chwarae yn rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel ydy hi eleni.

Roedd y Seintiau 3-0 ar y blaen ar ôl y cymal cynta a bydd pencampwyr Cymru yn chwarae yng Nghyngres UEFA ar ôl gêm gyfartal yn yr ail gymal yn erbyn FK Panevėžys nos Iau.

Un gynghrair fydd rownd gynta'r gystadleuaeth eleni yn hytrach na'r casgliad o grwpiau llai fel yr arfer - wedi i UEFA newid y drefn ar gyfer y brif gystadlaethau.

Roedd gan y Seintiau fantais glir cyn y gêm nos Iau ar ôl iddyn nhw drechu pencampwyr Lithwania o 3-0 yn y cymal cyntaf.

Fe ddisgynnodd Y Seintiau i'r gystadleuaeth hon ar ôl colli i bencampwyr Hwngari, Ferencvaros yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, ac yna i Petrocub o Moldofa yn nhrydedd rownd rhagbrofol Cynghrair Europa.

Pynciau cysylltiedig