Deliwr cyffuriau yn euog o lofruddio dyn â chyllell enfawr
- Cyhoeddwyd
Mae deliwr cyffuriau a drywanodd ddyn meddw yn ei frest â chyllell enfawr wedi cael ei ganfod yn euog o'i lofruddio.
Cafodd Lee Crewe, 36, ei drywanu i farwolaeth ar Heol Cas-gwent yn ardal Maendy yng Nghasnewydd ym mis Mai 2024.
Roedd David Sisman o Gasnewydd wedi cyfaddef iddo werthu cyffuriau y noson honno ac wedi cyfaddef iddo drywanu â chyllell, ond roedd yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Brynhawn Gwener dyfarnodd y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd yn unfrydol fod y dyn 21 oed yn euog.
Dywedodd Mark Cotter KC ar ran yr erlyniad wrth yr achos fod Mr Crewe yn "ddyn meddw heb unrhyw arf" pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Ychwanegodd fod Sisman wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd ganddo sylw i'w wneud.
“Petaech chi’n cael eich cyhuddo o lofruddiaeth a bod yna esboniad gwir a syml pam eich bod chi wedi rhoi cyllell fawr ym mrest dyn arall, oni fyddech chi'n dweud hynny wrth yr heddlu?" gofynnodd.
Dywedodd Tom Crowther KC, a oedd yn amddiffyn Sisman, fod ei gleient yn amddiffyn ei hun rhag Mr Crewe a oedd yn llawn "cynddaredd ymffrostgar".
Dywedodd Mr Crowther fod neges destun a anfonwyd gan Mr Crewe ychydig cyn iddo gael ei drywanu yn dweud "rwy'n mynd i ddwyn rhywbeth oddi ar rhywun", a dywedodd ei bod hi'n amlwg felly ei fod yn bwriadu dwyn oddi ar Sisman.
Cyfeiriodd hefyd at y cocên a'r alcohol yr oedd y dioddefwr wedi'u cymryd.
Ychwanegodd fod ei gleient wedi estyn y gyllell "yng ngwres y foment" a thrywanu Mr Crewe a oedd yn "ddyn llawer mwy" oherwydd ei fod yn ofni am ei ddiogelwch ei hun.
Tra roedd Mr Crewe yn marw, rhedodd Sisman i ffwrdd gan daflu'r gyllell i Afon Wysg, meddai Mr Cotter.
Gohiriodd y Barnwr Daniel Williams yr achos tan 28 Tachwedd er mwyn i adroddiad cyn-dedfrydu gael ei ysgrifennu, a dywedodd wrth Sisman: "Yr unig ddedfryd y gallaf ei rhoi fydd carchar am oes."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai