Dyn i wynebu achos llofruddiaeth wedi marwolaeth Casnewydd

Lee CreweFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Lee Crewe wedi ei ddisgrifio fel "dyn hyfryd, y tu mewn a thu allan"

  • Cyhoeddwyd

Bydd dyn 21 oed yn wynebu achos llys yn yr Hydref wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn arall yng Nghasnewydd.

Bu farw Lee Crewe, 36, ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Cas-gwent yn y ddinas ar 14 Mai.

Doedd David Sisman ddim yn bresennol yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Casnewydd.

Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys eto ar 9 Awst.

Mewn datganiad, fe wnaeth teulu Mr Crewe ei ddisgrifio fel "dyn hyfryd, y tu mewn a thu allan".

Dywedodd Heddlu Gwent nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall fel rhan o'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Crewe.

Mae disgwyl i Mr Sisman sefyll ei brawf ar 28 Hydref ac mae disgwyl i’r achos bara saith diwrnod.

Pynciau cysylltiedig