89 o bobl wedi eu heintio ar ôl sesiynau mwytho anifeiliaid

Mwytho anifeiliaidFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 89 o bobl bellach wedi cael haint cryptosporidiwm ar ôl mynd i sesiynau bwydo a rhoi mwythau i anifeiliaid ar fferm yn y de.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn atgoffa ymwelwyr i ddilyn arferion hylendid da wrth ymweld â Siop Fferm y Bont-faen ar fferm Marlborough Grange ym Mro Morgannwg.

Mae wyth o achosion newydd o'r haint wedi eu canfod sy'n gysylltiedig ag ymweliadau â'r fferm ym Mawrth ac Ebrill 2025.

Cafodd pumed cyfarfod o Dîm Rheoli Achosion aml-asiantaeth ei gynnal ddydd Sadwrn fel rhan o'r ymateb i ledaeniad yr haint.

Mae cryptosporidiwm yn baraseit sy'n gallu achosi salwch stumog, ac mae'n aml yn gysylltiedig ag anifeiliaid - yn enwedig anifeiliaid fferm ifanc.

Fe wnaeth y siop fferm ohirio sesiynau bwydo a rhoi mwythau i anifeiliaid ar 29 Ebrill, ac yn ôl ICC maen nhw'n cydweithredu yn llawn gyda'r ymchwiliad.

Dywedodd Susan Mably, ymgynghorydd amddiffyn iechyd i ICC: "Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i ymchwilio i'r haint ac i leihau'r risg o drosglwyddiad pellach.

"Mae cryptosporidiwm yn haint sy'n aml yn clirio heb driniaeth, er hyn mae'n gallu bod yn fwy difrifol i blant iau a phobl gyda system imiwnedd gwan."

Maen nhw'n annog pobl sydd wedi ymweld â'r fferm ac sy'n profi symptomau'r afiechyd i gysylltu â'u meddyg teulu neu i alw 111.

Pynciau cysylltiedig