81 o bobl bellach wedi eu heintio ar ôl sesiynau mwytho anifeiliaid

- Cyhoeddwyd
Mae 81 o bobl bellach wedi cael haint cryptosporidiwm ar ôl mynd i sesiynau bwydo a rhoi mwythau i anifeiliaid ar fferm yn y de.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn atgoffa ymwelwyr i ddilyn arferion hylendid da wrth ymweld â Siop Fferm y Bont-faen ar fferm Malborough Grange ym Mro Morgannwg.
Mae saith o achosion newydd o'r haint wedi eu canfod sy'n gysylltiedig ag ymweliadau â'r fferm ym mis Mawrth ac Ebrill 2025.
Cafodd pedwerydd cyfarfod o Dîm Rheoli Achosion aml-asiantaeth ei gynnal ddydd Mercher fel rhan o'r ymateb i ledaeniad yr haint.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Mae cryptosporidiwm yn baraseit sy'n gallu achosi salwch gastroberfeddol, ac mae'n aml yn gysylltiedig ag anifeiliaid - yn enwedig anifeiliaid fferm ifanc.
Mae'r salwch bellach wedi taro 81 o bobl ac mae 16 o'r rheiny wedi gorfod aros yn yr ysbyty am o leiaf un noson.
Fe wnaeth y Siop Fferm ohirio sesiynau bwydo a rhoi mwythau i anifeiliaid ar 29 Ebrill, ac yn ôl ICC, maen nhw'n cydweithredu yn llawn gyda'r ymchwiliad.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio'r rheiny sydd wedi dod i gyswllt ag anifeiliaid wedi eu heintio i gymryd gofal arbennig er mwyn atal lledaeniad yr haint.
Dywedodd Beverley Griggs, ymgynghorydd amddiffyn iechyd i ICC: "Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i ymchwilio i'r haint ac i leihau'r risg o drosglwyddiad pellach.
"Mae Cryptosporidiwm yn haint sy'n aml yn cael ei glirio heb driniaeth, er hyn mae'n gallu bod yn fwy difrifol i blant iau a phobl gyda system imiwnedd gwan."
Maen nhw'n annog pobl sydd wedi ymweld â'r fferm ac sy'n profi symptomau o'r afiechyd i gysylltu â'u meddyg teulu neu i alw 111.