'Fe fyddwn ni yn yr ysbyty eto dros y Nadolig'
- Cyhoeddwyd
Wrth i lawer o bobl ddod at ei gilydd a dathlu'r Nadolig, bydd rhai teuluoedd yn treulio'r ŵyl mewn ysbyty.
Ers cael ei geni mae merch fach Brooke a Corey, Ivy-Mae, wedi cael gofal cyson yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd.
Am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwnnw, mae adeilad arbennig ar safle'r ysbyty wedi bod yn gartref i'r teulu.
Unwaith eto eleni, byddan nhw'n treulio'r Nadolig yn Nhŷ Ronald McDonald ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
"Dydyn ni heb addurno ein tŷ ni gydag addurniadau Nadolig," meddai Brooke Bonnett.
"Bydd Ivy yn yr ysbyty, felly be' yw'r pwynt?"
Cafodd Ivy-Mae, sy'n ddwy oed, ei geni gyda Oesophageal Atresia a Tracheo-oesophageal fistula – cyflwr prin sy'n effeithio ar ei phibell fwyd a'i llwybr anadlu.
Bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth oriau wedi iddi gael ei geni.
"Cefais i wybod bod hyd at 20% o siawns y byddai hi'n goroesi," meddai ei mam, Brooke.
"Yn bersonol, do'n i ddim yn credu y bydden ni'n dod adre gyda'n babi bach."
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2024
Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiant ond mae hi wedi cael sawl triniaeth ers hynny.
Bydd Ivy yn cael ei 18fed llawdriniaeth fis yma.
Yn ystod y cyfnod hwnnw mae Tŷ Ronald McDonald yng Nghaerdydd wedi cynnig hafan i deuluoedd fel un Brooke.
Mae 30 o ystafelloedd gwely yn yr adeilad, sy'n cynnig llety am ddim i deuluoedd plant sy'n cael triniaeth yn yr ysbyty.
"Mae'r ystafell lle dwi'n eistedd nawr yn golygu popeth i fi," meddai Brooke.
"Dyma'r ystafell gyntaf i ni aros ynddi ac mae ganddon ni atgofion arbennig iawn gyda'n plant yma."
Mae gan Brooke a Corey ferch arall, Willow, sy'n flwydd oed.
Bydd y teulu'n gallu bod gyda'i gilydd dros yr ŵyl.
"Dyma'n cartref ni, dyma lle mae'n atgofion cyntaf ni gyda Ivy," meddai Brooke.
"Dros y Nadolig, bydd pobl yn dathlu ac yn agor eu hanrhegion ond mae Ivy dal angen ei thriniaeth.
"Ond ni'n gallu dod yma a bydd hi'n gallu agor ei anrhegion fel unrhyw blentyn arall. Byddwn ni'n cael cinio Nadolig hefyd."
'Cariad a hapusrwydd'
Bydd y tŷ yn cael ei addurno ac mae Brooke yn dweud bod yr adeilad "yn cynnig cariad a hapusrwydd i blant drwy'r flwyddyn".
Mae'n ddiolchgar hefyd bod y staff yn gofalu amdanyn nhw fel rhieni.
Mae Tŷ Ronald McDonald Caerdydd wedi cynnig cefnogaeth i blant a'u teuluoedd ers saith mlynedd.
Dyma'r unig dŷ o'r fath yng Nghymru.
Eglurodd rheolwr yr elusen yng Nghymru, Emily Mitchell eu bod nhw'n "ceisio gwneud unrhyw beth allwn ni i roi seibiant" i deuluoedd.
Maen nhw'n rhoi anrhegion i deuluoedd ar benblwyddi a dyddiau eraill o bwys.
"Rydyn ni eisiau darparu cymaint allwn ni i'n teuluoedd.
"Efallai bod Cymru'n edrych fel gwlad fach, ond dydy hi ddim.
"Mae'n rhaid i deuluoedd deithio'n bell i ddod yma - Ysbyty Arch Noa ydy prif ysbyty plant Cymru a mae rhai teuluoedd yn gorfod teithio hyd at dair awr i gael triniaeth.
"Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gallu eu croesawu nhw yma a'u cefnogi nhw."
Dechreuodd Danielle James weithio yn y tŷ wedi i'w merch, Harlow, fod yn aros am lawdriniaeth ar ei chalon yn 2022.
"Fe syrthiais i mewn cariad gyda'r adeilad. Roedd yn le diogel ac roedd y staff yn groesawgar."
Mae hi a'i phartner, Cai, yn byw yn Nhonyrefail sydd 40 munud mewn car o'r ysbyty lle cafodd Harlow driniaeth.
Roedd cael gwybod bod ei phartner yn gallu bod yn agos yn "ryddhad enfawr".
"Roeddwn i'n gallu anadlu eto ac o'n i'n gwybod bydden ni'n iawn."
'Pedair wal wedi eu llenwi gyda chariad'
Ar ôl ei phrofiad personol mae Danielle yn dweud ei bod "yn cofio dweud nad oedd ots gen i beth fydden i'n wneud yno, ond mae'n rhaid i fi weithio neu wirfoddoli yno".
"Ni'n trio gwneud yn siŵr bod pawb yn gyfforddus yma," meddai Danielle.
"Os yw pobl yma dros y Nadolig, rydyn ni'n rhoi anrhegion i bobl a thrio gwneud gymaint allwn ni."
Bydd y tŷ yn parhau i fod yn rhan fawr o fywyd Brooke a'i theulu wrth i Ivy barhau i gael triniaeth.
"Mae'n fwy na pedair wal. Mae'r pedair wal wedi eu llenwi gyda chariad ac atgofion i nifer o deuluoedd sydd wedi aros yma."