'Dechrau'r diwedd?' - Pryder am ddyfodol ward plant Bronglais
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni nifer o blant sydd wedi cael eu trin yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yn dweud eu bod yn pryderu am ddyfodol y gwasanaethau yno yn sgil y newyddion y bydd capasiti'r ward blant yn lleihau fis nesaf.
"Be' sy'n poeni fi 'di mai dyma gychwyn, 'falle, y diwedd," meddai un tad.
O fis Tachwedd bydd nifer y gwlâu ar y ward blant yn gostwng o naw i bump am gyfnod o chwe mis, a hynny yn sgil heriau staffio.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "deall y bydd rhai rhieni'n bryderus" am y newidiadau ond y byddan nhw'n parhau i "gynnig y gofal gorau".
- Cyhoeddwyd26 Medi
- Cyhoeddwyd26 Medi
- Cyhoeddwyd26 Medi
Roedd mab Colin Harding o Fachynlleth wedi treulio wythnosau ar Ward Angharad yn dilyn heriau gyda'i bendics.
Yn ôl Colin, roedd ef a'i wraig Gwerfyl yno "dydd a nos" yn cysgu mewn cadair wrth ochr gwely Welan, 12 oed.
"Roedd 'na waith trafeilio nôl a 'mlaen. Mae'n 20 milltir lawr 'na, 20 milltir nôl i ni."
Ond "cysur" oedd gwybod, meddai Colin, bod modd cael gofal gan "staff bendigedig" yn Aberystwyth.
Tra bydd gofal yn dal i fod ar gael ar y ward, yn ôl Bwrdd iechyd Hywel Dda, bydd plant sâl iawn yn cael eu trosglwyddo i Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Pryder Mr Harding yw bod gorfod teithio i ysbytai eraill yn rhwystr i nifer yn ddaearyddol.
"Chi'n sôn am siwrne o awr, awr a hanner i Aberystwyth o Dywyn heb sôn am orfod trafeilio ymhellach," meddai.
"Pan ma' rhywbeth wedi digwydd, chi eisiau cael rhywun i ysbyty mor fuan â phosib."
Wedi i Welan wella, fe wnaeth Colin a'i ffrindiau drefnu taith seiclo o Wolverhampton i Aberdyfi er mwyn codi arian ar gyfer Ward Angharad.
Llwyddodd y criw i gasglu £10,000 dros yr haf.
"Dwi'n teimlo'n flin iawn dweud y gwir ar ôl beth sy'n mynd ymlaen, rŵan bod yr holl arian wedi cael ei gasglu."
Pryder Mr Harding yw bod mwy o doriadau ar y gorwel i'r ward.
"Os 'dy nhw'n cychwyn hyn rŵan, beth sydd mynd i fod mewn blwyddyn?"
Dwy arall sy'n benderfynol o warchod y gwasanaethau yw Judy Morgan a Cerys Humphreys.
Ar ôl clywed bod capasiti Ward Angharad yn lleihau am gyfnod, fe benderfynodd y ddwy fam o Aberystwyth greu darn o gelf mewn protest.
Yn ffotograffydd proffesiynol, gofynnodd Judy Morgan i rieni'r ardal rannu llun o'u plant a manylion eu profiadau yn Ysbyty Bronglais.
"Roeddwn i'n meddwl mai'r ffordd orau o gael sylw pobl yw'r ffordd weledol," meddai Ms Morgan, sydd wedi defnyddio mwy na 50 o ddelweddau o gleifion ifanc i wneud collage.
"Roedd yna lawer o straeon," meddai Ms Morgan.
"Roedd yna blant oedd angen mynediad agored i'r ward oherwydd eu bod nhw'n cael triniaethau fel cemotherapi, sy'n amlwg yn ddinistriol.
"Roedd un o'r straeon yn drist iawn - roedd angen llawdriniaeth ar yr ymennydd ar blentyn, ac oni bai am Ward Angharad, doedd y teulu ddim yn gwybod beth fyddai wedi digwydd."
'Lle diogel' sy'n 'cynnig sicrwydd'
"Byddai'n gwbl ddinistriol," meddai Cerys Humphreys - mam i ferch 16 mis oed sydd wedi bod yn glaf yng Nghaerdydd, Bryste a Chaerfyrddin.
Dywedodd fod teithio i gael y gofal yr oedd ei angen ar ei babi yn "niweidiol yn ariannol" i'w theulu.
Ychwanegodd Ms Humphreys fod cyfleustra daearyddol Ward Angharad, ynghyd â'r ffaith bod y staff yno yn adnabod anghenion ei merch yn dda, yn "amhrisiadwy" ac yn "cynnig sicrwydd".
Dywedodd Ms Morgan fod teuluoedd o ymhellach i ffwrdd, o ardaloedd fel Tywyn, wedi cyfrannu at y gwaith celf, gan rannu eu pryderon bod ysbytai amgen fel Bangor a Chaerfyrddin oriau i ffwrdd yn y car.
Ychwanegodd fod Ward Angharad yn "le diogel" i bobl gael gofal yn "agos i'w cartrefi".
Pan oedd ei phlant hi angen gofal yng Nghaerfyrddin, dywedodd Ms Morgan fod rhannu ei hamser rhwng Aberystwyth a'r ysbyty wedi cael "effaith enfawr" ar ei hiechyd meddwl.
“Roedd yn anodd iawn mynd trwy’r holl emosiynau hynny, yr holl feddyliau hynny, wrth fod oddi cartref.”
'Gwerthfawrogi y bydd hyn yn anodd'
Dywedodd Lisa Humphrey, rheolwr cyffredinol gwasanaethau merched a phlant ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda y "bydd mwyafrif y rhai sy'n mynychu yn parhau i dderbyn gofal yn Ysbyty Bronglais am hyd at 24 awr".
Ychwanegodd y bydd niferoedd bach yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.
“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn anodd i rai teuluoedd sy’n byw ymhellach i ffwrdd, ond mae ein modelu yn dangos bod y niferoedd hyn yn debygol o fod yn fach a byddwn yn cynnig y gofal a’r cymorth gorau i deuluoedd yn ystod eu hamser gyda ni.”