Aberystwyth: Ymgyrch i sicrhau statws Dinas Llên UNESCO
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch ar y gweill i enwebu Aberystwyth a Cheredigion i fod yn "ddinas llên" UNESCO cyntaf Cymru.
Mae sawl Dinas Llên UNESCO yn Lloegr a’r Alban ond nid oes yr un yng Nghymru.
Bydd yn rhaid i’r cais brofi bod llenyddiaeth yn rhan greiddiol o’r dref a’r sir, a bydd pwyslais y cais ar lyfrau, darllen a chreadigrwydd llenyddol.
Yn ôl maer y dref, byddai sicrhau'r statws yn denu rhagor o ymwelwyr ac yn "hyrwyddo'r hyn sydd yn digwydd yn y byd llên yn barod".
Braint a bri statws UNESCO
Mae pwyllgor gwaith Ymgyrch Dinas Llên yn cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Llyfrau Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Fe lansiwyd yr ymgyrch yn haf 2023, ond mae’r partneriaid nawr yn chwilio am gydlynydd er mwyn rhoi cais at ei gilydd erbyn gwanwyn 2025.
Mae’r cais yn cael ei arwain gan Gyngor Tref Aberystwyth a maer y dref, Kerry Ferguson.
"Rydym fel ardal yn gyffrous iawn gyda'n hymgyrch ar gyfer statws UNESCO a Dinas Llên - ddim yn unig ar gyfer denu mwy o bobl i Aberystwyth a Cheredigion, ond hefyd i hyrwyddo'r hyn sydd yn digwydd yn y byd llên yn barod."
"Mae gyda ni Fardd y Dref yn Aberystwyth, sef Eurig Salisbury ar hyn o bryd, nifer enfawr o feirdd ac awduron lleol, digwyddiadau llenyddol fel Gwyl Barddoniaeth (Bookshop by the Sea), Gŵyl Crime Cymru, Cicio'r Bar a mwy!"
"Fel maer, mae'n fraint ac anrhydedd cael bod yn rhan o'r tîm yma, a dwi wir gobeithio bydd Aberystwyth a Cheredigion yn llwyddiannus."
Dinasoedd llên ar draws y byd
Byddai'r statws hefyd yn cysylltu’r ardal â rhwydwaith Dinasoedd Creadigol UNESCO.
Yn ôl Athro'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, Yr Athro Mererid Hopwood, sy’n brifardd ac archdderwydd, “ni yn teimlo ei bod hi’n drueni mawr nad oes gan Gymru ddinas llên”.
Mae na 53 dinas llên led led y byd mewn 39 o wledydd, ac ar bob cyfandir.
“Mae dwy yn Lloegr, Norwich a Nottingham, mae eraill yn Nulyn, Lahore, Quebec, Montevideo, Lyon, Barcelona.. a ni just yn gallu dychmygu Aberystwyth a Cheredigion yn eistedd yn dwt iawn yn y bartneriaeth honno,” ychwanegodd.
“Bydde’n braf iawn gallu croesawu pobl yma i ddinas llên UNESCO. Mae’n gydnabyddiaeth o’r math o le sydd gyda ni.”
Ceredigion gyfan yn rhan o’r cais
Mae Ceredigion gyfan, nid dim ond Aberystwyth, yn rhan o’r cais.
“Ymgyrch ar y cyd ydy o i drio cael y statws ‘ma, does dim arian ynghlwm â fe, mae’n hollol wahanol i’r Dinasoedd Diwylliant, ond mi fyddai’n dod â bri i ni,” yn ôl Mererid Hopwood.
Ychwanegodd nad oes problem bod Aberystwyth ddim yn ddinas swyddogol.
“Dinas Llên UNESCO yw hyn a dyw e ddim yn dilyn y rheolau arferol, gwladwriaethol.
"Mae UNESCO yn diffinio dinas fel ardal sydd â phrifysgol, ac mae Prifysgol Aberystwyth fel y’n ni’n gw'bod, yn Aberystwyth, ac mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant hefyd yn Llambed,” meddai.
Mae partneriaid eraill yn cynnwys y sefydliadau mawr ond hefyd, “wrth gwrs, yr awduron, llenorion, y diwydiant rhyfeddol a hynafol gweisg a chyhoeddwyr yn yr ardal hon, felly yn ogystal â chynhyrchu’r stwff creadigol, mae’r busnes sy’n mynd gyda fe – y siopau llyfrau ac ati.”
Mae gan yr ymgyrch flwyddyn i baratoi a chyflwyno cais i Bwyllgor Dinasoedd Creadigol UNESCO ym mis Ebrill.
Yn ôl Kerry Ferguson, “mae lot o waith i wneud, ond mae'r tîm gwirfoddol hyd yn hyn wedi cael lot o lwyddiant o ran nawdd a chefnogaeth, ac rydym ar hyn o bryd yn chwilio am gydlynydd i ymuno â'r tim, diolch i grant ARFOR".
Beth yw'r meini prawf?
Mi fydd angen profi tri pheth cadarn yn y cais.
Mae'r dref eisoes yn gallu enwi dros 300 o lenorion sydd yn gysylltiedig ag Aberystwyth a’r sir, gan gynnwys Gwenallt, Parry Williams, Mihangel Morgan, Marged Tudur, Waldo Williams, Ceri Wyn, Fflur Dafydd, Caryl Lewis, Dafydd ap Gwilym, a bydd yn rhaid datgan hyn yn y cais.
Yn ail, rhaid profi’r hyn mae’r dref a’r ardal wedi’i wneud yn enw llenyddiaeth dros y bum mlynedd ddiwethaf.
“Ni’n ffodus bod y gyfnewidfa lên yn fan hyn hefyd felly mae lot o waith cyfieithu llên yn mynd rhagddo yma”, meddai Mererid Hopwood.
Ac yn drydydd, esbonio beth fyddai’r dref a’r sir yn ei wneud gyda’r statws, petaent yn llwyddiannus.
Yn ôl Mererid Hopwood: “I ni fel grŵp wedi hên ddod i’r casgliad, hyd yn oed os na chawn i e, er ein bod yn go benderfynol o wneud, y bydd y tynnu ynghŷd 'ma wedi bod yn werth chweil, a does dim yn ein hatal ni rhag hawlio y statws heb UNESCO, ond ni’n mynd am y jacpot ar hyn o bryd.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd9 Medi 2021