Cymru'n gobeithio 'sbwylio parti Lloegr' - Wilkinson

Angharad James a Rhian Wilkinson mewn cynhadledd newyddion cyn y gêm yn erbyn Lloegr yn St GallenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Angharad James a Rhian Wilkinson mewn cynhadledd newyddion cyn y gêm yn erbyn Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Cymru Rhian Wilkinson yn dweud eu bod yn gobeithio "sbwylio parti Lloegr" cyn i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd yn Euro 2025 nos Sul.

Lloegr ydi'r pencampwyr presennol ar ôl iddyn nhw ennill y gystadleuaeth yn 2022.

Ond mae'n rhaid iddyn nhw guro Cymru yn eu gêm grŵp olaf i fod yn saff o'u lle yn rownd yr wyth olaf.

Mi fydd Lloegr yn cychwyn y gêm fel ffefrynnau clir ar ôl iddyn nhw ennill 4-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn eu gêm ddiwethaf.

'Dim byd i'w ofni'

"Mae'r pwysau i gyd ar Loegr, ac mae disgwyl iddyn nhw ennill y gêm. Ond 'da ni'n credu y gallwn ni achosi sioc," meddai Wilkinson.

"Fel rhywun sy'n dod o Ganada ac yn cofio gemau yn erbyn Yr Unol Daleithiau, dwi'n gwybod be mae'r gêm hon yn ei olygu i bawb. Dwi'n ymwybodol o'r hanes.

"Mae'r disgwyliadau'n uchel o safbwynt Lloegr. Ond er eu bod nhw'n dîm da mae ganddyn nhw wendidau."

Ar ôl i Gymru golli eu dwy gêm gyntaf, mae angen gwyrth arnyn nhw i gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Os ydyn nhw am orffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp, mae angen i Gymru ennill o bedair gôl yn erbyn Lloegr, a gobeithio y bydd Ffrainc yn curo'r Iseldiroedd.

"Mae 'na dal gyfle i ni fynd drwodd, ac mae hynny'n eithaf cyffrous mewn ffordd.

"Does gennym ni ddim byd i'w ofni, a 'da'n ni'n gweld y gêm fel cyfle arall i ddangos i bawb ein bod ni'n dîm da."

Gemau'r gorffennol

Dyw Cymru erioed wedi curo Lloegr, ond mi gafon nhw ganlyniad cofiadwy yn eu herbyn yn 2018 yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Ar y pryd mi oedd Lloegr yn ail ar restr detholion FIFA, ac mi oedd disgwyl iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn Stadiwm St Mary's, Southampton.

Ond diolch i waith amddiffynnol gwych, a sawl arbediad o'r safon uchaf gan Laura O'Sullivan, fe lwyddodd Cymru i gael gêm ddi-sgôr.

Mi oedd hi'n ymddangos hefyd fod Natasha Harding wedi rhoi Cymru ar y blaen yn yr hanner cyntaf, ond doedd y swyddogion ddim yn credu fod y bêl wedi croesi'r llinell gôl.

Rachel Rowe ac Angharad James yn dathlu'r gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Lloegr yn 2018 yn SouthamptonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rachel Rowe ac Angharad James yn dathlu'r gêm gyfartal yn erbyn Lloegr yn 2018

Jayne Ludlow oedd rheolwr Cymru ar y pryd - ac fe ddisgrifiodd hi'r canlyniad fel "yr un gorau yn hanes Cymru".

Er hynny fe enillodd Lloegr y gêm gyfatebol yng Nghasnewydd 3-0 yn hwyrach ymlaen yn yr ymgyrch i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd.

Newyddion timau

Mae 'na newid hwyr wedi bod i garfan Cymru ar ôl i'r golwr Poppy Soper ddioddef anaf mewn sesiwn ymarfer, sy'n golygu ei bod hi'n gorfod dychwelyd adref.

Soffia Kelly, 18 oed o glwb Aston Villa, sydd wedi cael ei galw mewn i'r garfan i gymryd ei lle.

Y newyddion da i Gymru ydi fod pawb arall yn holliach.

Er ei bod hi ar y fainc ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc, doedd Hayley Ladd ddim 100% ar ôl dioddef gyda salwch.

Mi fydd yn rhaid i Rhian Wilkinson benderfynu a fydd Sophie Ingle yn dechrau'r gêm neu beidio.

Sophie Ingle yn dod ymlaen fel eilydd yn lle Jess Fishlock yn erbyn Ffrainc yn Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sophie Ingle yn dod ymlaen fel eilydd yn lle Jess Fishlock yn erbyn Ffrainc

Ar ôl gwella o anaf hir-dymor i'w phen-glin i gael ei chynnwys yn y garfan, fe wnaeth Ingle chwarae am y tro cyntaf yn Euro 2025 yn erbyn Ffrainc.

Fe ddaeth ymlaen fel eilydd yn lle Jess Fishlock yn ystod munudau olaf y gêm, ac mi fydd hi'n awyddus i chwarae mwy o ran yn erbyn Lloegr.

Gobeithion y cefnogwyr

Er bod Cymru wedi colli eu dwy gêm gyntaf yn y grŵp, mae'r cefnogwyr wedi mwynhau'r profiad o ddilyn y tîm yn Euro 2025.

Heb unrhyw amheuaeth mi fydd yna ddigon o sŵn gan Y Wal Goch yn erbyn Lloegr, gyda'r rhan fwyaf yn credu y bydd y Saeson yn rhy gryf.

Cefnogwyr Cymru yn St Gallen cyn y gêm yn erbyn Lloegr yn Euro 2025
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Cymru yn St Gallen

"Dwi'n gobeithio y gwelwn ni Cymru'n sgorio, mi fyse hynny'n hyfryd i'w weld," yn ôl Bethan Cunningham, 33 oed, o'r Barri.

"Mi fydd hi'n anodd yn erbyn Lloegr, a fyddai ddim yn rhy siomedig os y byddwn ni'n colli.

"Mae hi'n gyffrous iawn bod yma yn Y Swistir, ac mae hi'n wych gweld merched ifanc yng Nghymru yn gweld y tîm yn chwarae ar y lefel uchaf."