Galw am fwy o gefnogaeth i ddisgyblion ac ysgolion ers Covid

Disgyblion yn yr ysgol
  • Cyhoeddwyd

"Ma' rhai pobl wedi gweld pethe' sy'n mynd i aros yn ein cof, ac wedi newid nhw."

Dyna eiriau un o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, wrth edrych yn ôl ar y cyfnodau clo.

Er taw atgof yw'r cyfnod yma bellach, bum mlynedd yn ddiweddarach, mae'r effaith ar blant a phobl ifanc yn amlwg.

Yn ôl y seicolegydd plant Dr Nia Williams o Brifysgol Bangor, mae angen mwy o gefnogaeth i helpu'r rheiny sydd wedi eu heffeithio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu £7 miliwn i gynyddu lefelau presenoldeb, gyda dros £5m arall wedi'i roi i gefnogi rhaglen iechyd meddwl CAMHS mewn ysgolion.

'Profiad anodd'

Caitlun
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Caitlun fenthyg cyfrifiadur o'r ysgol yn ystod y cyfnod clo

Gyda dosbarthiadau gwag ar hyd a lled Cymru, roedd mwyafrif o blant y wlad yn gorfod dysgu o adref ac ar-lein. Doedd dim modd gweld ffrindiau am fisoedd.

I Evan, oedd yn 7 oed pan ddechreuodd y pandemig, roedd e'n rhy ifanc i wybod beth yn union oedd yn digwydd.

"Roeddwn i jyst yn gweld mam a dad fi mewn tipyn bach o panig," meddai.

Yn ôl Caitlun, sydd bellach yn yr ysgol uwchradd roedd y cyfnod yn "galed".

"Oedd angen fi benthyg cyfrifiadur o'r ysgol am yr holl beth, so oedd hwnna yn anodd.

"O'n i yn rhywun oedd yn hoffi mynd mas tu fas ond ers yr amser clo, ma hwnna wedi newid fi.

"Fi ddim eisiau mynd mas gymaint, fi eisiau bod ar sgrin, fi eisiau fy ffôn."

Jack
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jack yn teimlo llawer llai 'social' ers y pandemig

Un arall sy'n teimlo'n wahanol ers y pandemig yw Jack, ond mae e'n falch iawn fod plant bellach nôl yn yr ysgol.

"Dwi'n gweld nawr dwi yn llai social, dwi ddim eisiau mynd allan trwy'r amser. Roedd llawer o bobl yn dweud "I don't wanna be back" achos chi'n gallu aros yn y tŷ, chwarae gemau, gwneud be chi mo'yn.

"Nawr chi'n gorfod mynd nôl i ysgol lle chi ddim rili ishe bod.

"O'n i arfer teimlo fel'na ond nawr fi nôl a mewn routine mae e lot gwell."

Chris Shaw
Disgrifiad o’r llun,

Mae cael disgyblion yn ôl i'r ysgol dal yn broblem, meddai Mr Chris Shaw

Yn ôl Estyn, y corff sy'n arolygu ysgolion Cymru, fe allai gymryd dros ddegawd i lefelau presenoldeb ysgolion uwchradd wella i fod fel oedden nhw cyn y pandemig.

Mae'r corff hefyd yn dweud bod disgyblion, sy'n gymwys i brydau ysgol am ddim, ar gyfartaledd yn colli diwrnod o'r ysgol bob wythnos.

Dywedodd Mr Chris Shaw, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe, bod cael plant yn ôl i'r ysgol dal yn "broblem".

"Da'th plant mewn i arferion newydd, o'dd ambell i blentyn yn teimlo yn fwy diogel yn cael eu haddysg nhw adre, so pum mlynedd yn ddiweddarach mae e dal yn her i ni o ran sicrhau bod disgyblion yn mynychu'r ysgol," meddai.

'Mwy o fuddsoddiad'

Dr Nia WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Nia Williams bod llawer mwy o blant â problemau iechyd meddwl fel iselder a phryder ers y cyfnod clo

Mae angen mwy o gefnogaeth i helpu'r rheiny sydd wedi eu heffeithio fwyaf, medd y seciolegydd plant, Dr Nia Williams o Brifysgol Bangor.

"Ers y cyfnod clo mi ydan ni wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer o blant sydd hefo problemau iechyd meddwl, problemau fel iselder, a phroblemau fel pryder."

Ychwanegodd er bod ysgolion yn gwneud "gwaith anhygoel" yn cefnogi disgyblion bod rhaid, o bosib, meddwl am "fuddsoddi mwy o arian i helpu yr athrawon a'r ysgolion yma i gefnogi'r plant a'u teuluoedd nhw gora fedran nhw".

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Er bod presenoldeb ysgol wedi cynyddu ychydig eleni, mae'n parhau i fod yn is na'r lefelau a welwyd cyn y pandemig.

"Mae'r rhesymau dros ddiffyg presenoldeb yn amrywiol ac yn aml yn gymhleth ac rydym wedi cyhoeddi £7m yn ddiweddar i gynyddu lefelau presenoldeb ac ymateb i anghenion dysgwyr a'u teuluoedd.

"Rydym hefyd yn darparu £5.6m i gefnogi rhaglen CAMHS mewn ysgolion, gydag ymarferwyr iechyd meddwl ymroddedig mewn ysgolion yn darparu cefnogaeth."

Pynciau cysylltiedig