Byw yng Nghymru yn cynnig 'teimlad o berthyn' i deulu Gwyddelig

Shân a Val
Disgrifiad o’r llun,

Bu Val Humphreys yn sgwrsio gyda Shân Cothi am ei siwrne dysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Gymru herio Iwerddon mewn gêm gyffrous yn y 6 Gwlad penwythnos diwethaf, un oedd gyda hawl i gefnogi naill dîm neu'r llall oedd Val Humphreys.

Yn wreiddiol o County Meath yng Ngweriniaeth Iwerddon, mae Val wedi bod yn byw yn Sir Gaerfyrddin ers amser maith ar ôl i'w gŵr gael swydd yno.

Bellach, mae Val wedi dysgu Cymraeg, ac mae eu tri mab hefyd yn rhugl ar ôl cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

'Dim clem' lle oedd Caerfyrddin

Wrth drafod ei phrofiadau ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru, esboniodd ei bod hi'n hanu o ardal wledig gyda "lot o ffermio, [a] lot o wartheg o gwmpas".

"Oeddwn ni'n gweithio ar y fferm yn y bore cyn mynd i'r ysgol jyst i helpu Dad, achos oedd e'n gweithio ar ffermydd eraill i gael arian," meddai.

Ond yn Nulyn fuodd hi'n astudio, a dyna lle gwrddodd hi a'i gŵr, Ciaran, wrth hyfforddi i fod yn sonograffydd mewn ysbyty plant, a chyn hir daeth cynnig o swydd yng Nghaerdydd i Ciaran.

"Ar ôl chwe mis nes i ddilyn e, ac achos oedd e ddim yn gyfarwydd gyda Chymru o gwbl, 'nathon nhw'n ofyn iddo fe 'hoffet ti fynd i Gaerfyrddin?', a doedd dim clem ganddo fe lle oedd Caerfyrddin o gwbl!

"Mae'n hollol wahanol i Ddulyn ond i fod yn onest, ni'n mor lwcus, mae'n ffordd mor hyfryd o gael plant ac i fagu teulu," esboniodd.

Val ar y ffermFfynhonnell y llun, Val Humphreys

Cystadlu yn yr Eisteddfod

Ond dechreuodd taith Val o ddysgu Cymraeg ddim tan iddynt ystyried i ba ysgol i'w ddewis ar gyfer ei mab hynaf - "o'n ni yng Nghymru am sbel, ac i fod yn onest nes i ddim meddwl am ddysgu Cymraeg cyn i fi gael plant," dywedodd.

Roedd y pâr yn awyddus i'w plant gael y "cyfle i ddysgu rhywbeth", gyda Val yn benderfynol fod y "teimlad o berthyn" yn bwysig iawn, rhywbeth oedd hi wedi ei deimlo erioed fel Gwyddeles.

Bellach, mae taith dysgu Cymraeg Val wedi ei gweld hi'n ymuno â Chôr Seingar, a hyd yn oed yn cystadlu yn yr Eisteddfod – rhywbeth sy'n wahanol iawn i beth sydd ar gael yn Iwerddon yn ôl Val.

"Pam ddes i draw, oeddwn ni ddim yn gallu credu sut mae pobl yn gallu canu gyda'i gilydd yng Nghymru – mae'n arbennig o dda.

[Yn Iwerddon] mae traddodiad gyda ni, a ni'n hoffi sesiynau [ganu] mewn bars, ond mae'n wahanol," meddai.

Y teulu yn NulynFfynhonnell y llun, Val Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Gŵr a meibion Val yn Nulyn

Cymru neu Iwerddon?

Ond y cwestiwn hollbwysig; pa dîm rygbi mae'r teulu yn ei gefnogi?

"Mae'n gymhleth yn tŷ ni," mae Val yn esbonio.

"Yr un hynaf, Odhran, mae wastad wedi cefnogi Iwerddon, wastad, ond Liam sydd yn y canol, mae'n dibynnu – mae'n dueddol o gefnogi Iwerddon, ond os mae'n edrych fel bod Cymru yn mynd i ennill, mae e'n gallu cefnogi Cymru...

"Ond yr un ifancaf, mae wastad yn cefnogi Cymru!"

Pynciau cysylltiedig