Newid rheolau cynllunio dadleuol wedi pryderon gwyliau

The Big ReTreatFfynhonnell y llun, Owen Howells/The Big Retreat
Disgrifiad o’r llun,

Roedd trefnwyr gŵyl The Big Retreat yn Lawrenni wedi rhybuddio y byddai'n rhaid ystyried symud oherwydd y rheolau newydd

  • Cyhoeddwyd

Mae parc cenedlaethol wedi cytuno i newid cynlluniau dadleuol yn ymwneud â meysydd gwersylla dros dro yn dilyn pryderon am eu heffaith.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cytuno i gyhoeddi "esboniad" i'r cynlluniau - fyddai'n gorfodi tirfeddianwyr i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer meysydd gwersylla dros dro, ac yn atal hawliau datblygu yn y parc sy'n bodoli mewn rhannau eraill o Gymru.

Ar hyn o bryd, gall tirfeddianwyr agor maes gwersylla dros dro am 28 diwrnod, ond yn y Parc Cenedlaethol fe fyddai'n rhaid gwneud cais am ganiatâd cynllunio o 1 Ionawr 2026.

Dywedodd trefnwyr gŵyl gerddorol yn Sir Benfro wrth BBC Cymru ei bod hi'n bosib y byddai'n rhaid symud eu digwyddiadau allan o'r Parc Cenedlaethol a Chymru pe bai cynllunio'n cael ei wrthod, gan ddweud bod y rheolau newydd yn creu ansicrwydd mawr.

Gwyl WestivalFfynhonnell y llun, Westival
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl Westival yn cael ei chynnal yn Maenorbŷr ers 2017 ac yn denu 2,500 o bobl

Cytunodd awdurdod y parc i gyhoeddi "datganiad o eglurhad" sy'n cadarnhau na fydd yn rhaid i wyliau, priodasau, ffilmio a sioeau amaethyddol wneud cais cynllunio ar gyfer meysydd gwersylla dros dro os yw'r gweithgaredd "yn cael ei ystyried yn atodol".

Gan amlinellu'r newidiadau, dywedodd Sara Morris o'r awdurdod y byddai'n "fuddiol i egluro'r ffiniau" yn dilyn pryderon a godwyd gan fusnesau sy'n gweithredu yn y Parc Cenedlaethol.

Bydd yn rhaid i ffermwyr a thirfeddianwyr eraill wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer maes gwersylla 28 diwrnod o hyd.

Bydd y cais a chyngor cyn-gynllunio ar gael am ddim.

Bydd pleidlais derfynol ar gyflwyno'r rheolau newydd ai peidio yn cael ei chynnal ym mis Mai.

Pynciau cysylltiedig