'Ddim yn deg' y bu farw dyn ar ôl i ambiwlans beidio cyrraedd
- Cyhoeddwyd
Mae gwraig dyn a arhosodd dros 14 awr am ambiwlans na gyrhaeddodd wedi dweud nad yw'n deg ei fod "wedi gorfod marw yn y fath gyflwr".
Aeth Peter Towndrow o Gaerdydd yn sâl ar noson 4 Rhagfyr, ond er i'w wraig Caroline ffonio ambiwlans am 06:00 y bore wedyn, bu'n rhaid i'w fab ei yrru i'r ysbyty am 21:00 y noson honno yn y pendraw.
Fe waethygodd ei gyflwr yn yr ysbyty, a bu farw ar 7 Rhagfyr ar ôl cael diagnosis o sepsis.
Mae amseroedd ymateb gwael ambiwlansys yn symptom o bwysau ehangach ar draws y system iechyd, yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae'r ffigyrau diweddaraf a gafodd eu rhyddhau ddydd Iau yn dangos bod 47.6% o alwadau ambiwlans 'coch' - ble mae perygl i fywyd - wedi eu cyrraedd o fewn yr amser targed o wyth munud.
Mae hyn yr un ffigwr â'r mis blaenorol, ond y targed ydy 65%.
Mae'r ffigyrau'n dangos hefyd bod yr oedi wrth drosglwyddo cleifion y tu allan i unedau brys wedi gwaethygu, gyda bron i 6,200 o ambiwlansys yn disgwyl am awr neu fwy.
'Roedd mewn poen'
Fe wnaeth iechyd Mr Towndrow, oedd yn ei 70au, waethygu dros yr haf ac fe gafodd ddiagnosis o fethiant ar yr arennau, gan olygu ei fod angen dialysis ddwywaith yr wythnos.
Ar 4 Rhagfyr 2024 fe ddechreuodd gael poenau mor ddifrifol yn ei goes ei fod wedi cysgu i lawr y grisiau yn hytrach na mynd i'w wely.
Dywedodd Mrs Towndrow: "Erbyn tri o'r gloch y bore, fe ffoniodd fi oherwydd doedd e ddim yn gallu fy neffro, roedd mewn poen."
Fe ffoniodd gwasanaeth 111 y GIG, a ddywedodd wrthi fod pryder y gallai fod yn thrombosis gwythiennau dwfn (DVT).
Oherwydd hynny, dywedwyd wrth Mrs Towndrow am geisio cael gafael ar feddyg teulu y tu allan i oriau, a ffonio am ambiwlans.
Fe wnaeth hi'r alwad honno am 06:00 fore Iau, ac fe gafodd wybod y gallai fod yn aros am bedair awr.
Ond wedi i'r oriau hynny fynd heibio heb iddi glywed mwy, fe benderfynodd ffonio eto, fwy nag unwaith.
"Fe ddywedon nhw wrtha i ar un adeg y byddai'n o leiaf wyth awr arall," meddai Mrs Towndrow.
Dywedodd ei bod wedi deall na fyddai ambiwlans yn cyrraedd tan o leiaf 01:00 y bore wedyn, ac felly fe gysylltodd â'i mab sy'n byw awr i ffwrdd yn Henffordd, i fynd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Roedd y meddyg teulu y tu allan i oriau wedi galw'r ysbyty i egluro ei bod yn credu bod gan Mr Towndrow cellulitis a DVT, gan ofyn am wely hefyd.
Ond wrth gyrraedd, dywedodd Mrs Towndrow nad oedd gan staff yr ysbyty unrhyw gofnod o alwad y meddyg teulu gan ei bod wedi bod mor hir, ac nad oedden nhw'n barod i dderbyn Mr Towndrow gan nad oedd wedi cyrraedd mewn ambiwlans.
'Dyw e ddim yn deg'
"Roedd yn eistedd yno mewn llawer iawn o boen, gyda'r goes boenus am ychydig oriau," meddai Mrs Towndrow.
"Dydw i ddim yn gwybod am ba mor hir y bu'n eistedd yno. Rhy hir."
Yn y pendraw cafodd wely yn oriau mân fore Gwener, ac fe gafodd ei ddialysis yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ond roedd ei gyflwr yn gwaethygu.
"Rwy'n cofio bod mor ypset gyda'i gyflwr," meddai Mrs Towndrow.
"Nes i ddod o hyd i nyrs a dweud 'dwi'n credu ei fod yn marw'.
"Fe ddaeth hi o hyd i feddyg, a soniodd nad cellulitis oedd e, ond sepsis.
"Dyna'r tro cyntaf ges i wybod hynny, ac o hynny fe aeth pethau'n waeth ac yn waeth."
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022
Bu farw Mr Towndrow yn oriau mân y bore Sadwrn.
Er bod ei iechyd wedi dioddef yn ddiweddar, dywedodd Mrs Towndrow nad yr oriau o aros oedd y ffordd y dylai ei fywyd fod wedi dod i ben.
"Ni ddylai fod wedi gorfod marw yn y fath gyflwr. Dyw e ddim yn deg."
'Cydymdeimlad diffuant'
Dywedodd Luke Williams o Wasanaethau Ambiwlans Cymru: "Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad diffuant i deulu Mr Towndrow ar eu colled trist.
"Mae amseroedd ymateb gwael ambiwlansys yn symptom o bwysau llawer ehangach ar draws y system gan gynnwys oedi wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai."
Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro nad oedden nhw'n gallu gwneud sylw am ofal cleifion unigol, ond dywedon nhw eu bod yn "meddwl am deulu Mr Towndrow ar yr adeg anodd yma".