Ar drywydd hen ffenestr liw Ysgol y Berwyn, Y Bala
- Cyhoeddwyd
Bydd cenedlaethau o blant Ysgol y Berwyn, Y Bala, yn cofio’r ffenestr liw arbennig oedd ar un o brif goridorau’r ysgol yn pelydru golau amryliw drostyn nhw wrth iddyn nhw basio i’w gwersi a chreu cysgodion cynnes o oren, glas, piws a gwyrdd ar lawr y coridor.
Roedd y ffenestr yn darlunio’r pum plwyf sydd yn nalgylch yr ysgol ac yn rhan annatod o’r adeilad ers diwedd y chwedegau.
Ond yn 2019, pan ailwampiwyd yr hen ysgol uwchradd yn ysgol gydol oes gyda’r enw newydd Ysgol Godre’r Berwyn, diflannodd y ffenestr eiconig o’i safle.
Felly beth yw hanes y ffenestr ac i ble mae hi wedi mynd?
Dyna mae’r bardd a’r awdur ac un o gyn-ddisgyblion yr ysgol, Siân Melangell Dafydd, wedi bod yn ei ddarganfod fel rhan o dîm bach sy’n trefnu arddangosfa yn y Bala fis Medi 2025.
I ddechrau, canfu Siân mai’r artist oedd Tim Lewis, un o brif artistiaid gwydr lliw Cymru, sy’n wreiddiol o Bontarddulais.
“Mae Tim Lewis yn un o’r artistiaid blaenllaw yn y maes gwydr ac yn rhywun y dylai’n bod ni’n ei ddathlu’n fwy,” meddai.
“Mae’r ffenestr yn un hynod. Dwi’n meddwl bod y rhai sydd wedi bod ddigon lwcus i gael y ffenestr hon yn tasgu lliwiau drostyn nhw wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu bywydau yn yr ysgol wedi bod yn lwcus iawn.
“Pump plwy Penllyn ydi teitl y ffenestr ac mae hi’n dangos pump eglwys yn y pump plwyf, sef Llanuwchllyn, Llangywer, Llanycil, Llanfor a Llandderfel.”
Fedrwch chi helpu?
Ar gyfer yr arddangosfa yng Nghanolfan y Plase, mae Siân yn apelio am help y cyhoedd i ddod o hyd i baneli gwydr gafodd eu gwneud fel paratoad ar gyfer creu’r ffenestr.
“Roedd Tim wedi creu’r paneli bychain yma, un i bob eglwys. Mae un ohonyn nhw yn nwylo’r teulu ond mae pedwar ar goll; fyse fo’n hyfryd gallu ffeindio lle maen nhw a gofyn caniatâd i’w harddangos fel bod y teulu o bump yn cael eu gweld efo’i gilydd.”
Pwy yw Tim Lewis?
Astudiodd Tim Lewis yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain dan Laurence Lee, un o feistri’r grefft ym Mhrydain, ac mae’n gyn bennaeth adran Gwydr Lliw Coleg Celf Abertawe.
Un arall o’i weithiau enwog yw ffenestr i gofio criw bad achub y Mwmbwls a fu farw mewn storm ar y môr yn 1947 sydd yn Eglwys yr Holl Saint, Ystumllwynarth.
Roedd yn rhagori ar yr arddull appliqué gan ddefnyddio glud oedd yn eithaf newydd ar y pryd i roi’r darnau o wydr ar ben ei gilydd yn lle defnyddio’r plwm du trwm traddodiadol i gadw’r darnau yn eu lle.
Dyma’r dechneg a ddefnyddiodd i wneud ffenestr Ysgol y Berwyn rhwng 1968-69.
“Wnaeth o wneud y ffenestr yma reit ar ddechrau ei yrfa ac roedd yn ei gwneud ar ei fis mêl yn aros yn y Bala,” meddai Siân.
Mae Timothy Lewis yn 83 mlwydd oed erbyn hyn a chanddo glefyd Alzhemier’s ond mae ei wraig, Janet Lewis, yn cofio’r cyfnod.
“Gwariodd lot o amser yn mynd o amgylch y pum plwyf yn tynnu lluniau o’r eglwysi,” meddai Janet.
“Wedyn dewis yr ongl orau o’r gwahanol eglwysi fyddai’n ffitio mewn i siâp y ffenest a’r glas yn gefndir yn cynrychioli Llyn Tegid. Felly o’dd y plant i gyd yn cael eu cynrychioli.”
“’Crefftwr wrth ei waith’ oedd enw’r prosiect a’r bwriad oedd creu rhywbeth a bod y cyhoedd yn gweld yr artist yn gweithio.
“Roedd Tim yn gweithio, torri’r gwydr ac yn y blaen, ac roeddwn i’n helpu. Roedd rhaid golchi pob darn o wydr yn lân cyn y broses o’i roi ar y plate glass.”
Roedd y gwaith yng ngŵydd y cyhoedd yn digwydd yn neuadd Tŷ Tan Domen yn y dref gyda’r pâr ifanc yn aros mewn gwesty gwely a brecwast.
Bydd yn syndod i rai ddysgu nad y lleoliad hwnnw ar ben y coridor ble roedd yr haul yn gallu tywynnu drwyddi oedd dewis yr artist.
Meddai Janet Lewis: “Yn ôl beth wy’n cofio Tim yn dweud, o’dd e mo’yn dewis lleoliad arall i’r ffenest oherwydd roedd y man a ddewiswyd yn cael lot o haul a felly gwres, a hynny ddim yn beth da. Ond ni chafodd ei ffordd.”
Un o atgofion Sian Melangell Dafydd am y lleoliad ydy’r diweddar brifathro, Dr Iwan Bryn Williams “yn sefyll yn warchodol iawn yn ei glogyn mawr du o flaen y ffenestr adeg egwyl a rhwng gwersi i wneud yn siŵr bod neb yn disgyn mewn i’r ffenestr neu’n pwnio yn ei herbyn.”
Ble mae’r ffenestr rŵan?
Ond ble mae’r ffenestr eiconig?
Mae hi’n ddiogel mewn storfa yn Ysgol Godre’r Berwyn, meddai Bethan Emyr, prifathrawes yr ysgol newydd.
“Yn ystod adnewyddu’r adeilad, fe dynnwyd y ffenestr i lawr ac yn y broses hynny daeth 'na ambell ddarn i ffwrdd,” eglurodd.
“Y bwriad ar y pryd oedd atgyweirio’r ffenestr a’i harddangos hi mewn man diogel yn yr ysgol ond fe redodd y Cyngor allan o arian.
“Mae hi mewn storfa yn yr ysgol ar hyn o bryd mewn bubble wrap i’w gwarchod, ac mewn pedwar darn.”
Drws tân sydd ym mhen draw’r coridor ble roedd y ffenestr yn arfer bod bellach.
Fe ddechreuodd yr ysgol ei hun chwilio am grantiau i’w hadfer a’i harddangos eto, meddai Bethan Emyr ond fe dorrodd y pandemig a heriau agor ysgol newydd ar draws y cynlluniau.
Ond gyda Chanolfan y Plase yn trefnu arddangosfa mae’r ysgol yn gobeithio y bydd cyfle i gydweithio i geisio dod â’r ffenestr yn ôl i olwg y cyhoedd.
“Fel ysgol roedden ni wedi bod yn troi yn ein hunfan braidd a ddim yn gwybod lle i droi wedyn mae’n braf cael arweiniad Siân yn hyn.
“Byddai’n bechod petai’r ffenestr ddim yn cael ei gweld eto, ddim yn cael ei thrwsio, achos mae’n rhan bwysig o hanes yr ardal.”
Meddai Siân: “Mae ganddon ni ymgyrch rŵan i weld beth fyddai cost ei hadnewyddu hi.
“Y gobaith yn y pen draw yw gallu cael hyd i gyllid a lleoliad i adfer y ffenestr fel bod pobl leol yn gallu ei mwynhau unwaith eto am genedlaethau i ddod.
“Beth sydd yn bwysig ydi bod darn o gelf arbennig sy’n enghraifft o waith cynnar artist gwydr pwysig ddim yn cael ei golli a bod y ffenestr i’w gweld mewn lle cyhoeddus yn ardal y pum plwyf."
Os oes gennych chi wybodaeth am baneli gwydr Llanuwchllyn, Llandderfel, Llanfor neu Langywer neu unrhyw hanesion eraill am greu’r ffenestr byddai trefnwyr yr arddangosfa wrth eu boddau’n clywed gennych.
Gwrandewch ar Sian yn siarad ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd9 Medi 2019
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023