Cyn-yrrwr lori yn sefydlu brand dillad bwydo o’r fron

Katie JonesFfynhonnell y llun, Banc Busnes Prydain
Disgrifiad o’r llun,

Katie Jones o Rydaman yw sylfaenydd Mama Glam

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-yrrwr lori wedi sefydlu brand dillad bwydo o’r fron ei hun, gyda'r nod o roi hwb i famau a gwella eu hunanhyder wrth fwydo'n gyhoeddus.

Mae cwmni Mama Glam o Rydaman yn cynnig dillad gyda zipiau cynnil, sy’n sicrhau bod y rhan fwyaf o’r fron yn aros yn gudd wrth fwydo.

Yn ôl sylfaenydd y cwmni, Katie Jones, mae diffyg dillad addas ar y stryd fawr yn ffactor pam nad oes rhagor o famau yn bwydo o’r fron, ynghyd â diffyg cefnogaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai cyfraddau bwydo ar y fron yn 2023 oedd yr uchaf erioed i blant o bob oed.

'Dim byd addas'

Ar ôl rhoi genedigaeth i’w merch Olivia, sydd bellach yn naw mis oed, mae Katie Jones yn dweud eu bod wedi cael "trafferth wirioneddol" gyda dillad wrth fwydo’n gyhoeddus.

“Roeddwn i’n meddwl, mae hyn yn anodd iawn, i gael fy mola ôl-enedigol allan yn gyhoeddus o flaen pobl…

“Fe aethon ni i barti pen-blwydd 60 a doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i ffrog oedd yn addas i mi o gwbl.

“Yn y diwedd, fe wisgais i ffrog mamolaeth gyffredin ond roedd yn rhaid i mi dynnu fy mron gyfan allan i fwydo, doedd e ddim yn discreet o gwbl.”

Ffynhonnell y llun, Banc Busnes Prydain
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Katie ydy cynnig dillad sy’n fwy addas ac yn fwy ffasiynol ar gyfer mamau sy’n bwydo o’r fron

Roedd y fam 25 mlwydd oed hefyd yn teimlo bod y dillad oedd ar gael ar y stryd fawr ddim wedi eu hanelu at famau ifanc, gan ei hannog i gynllunio casgliad o ddillad ei hun ar gyfer bwydo o’r fron.

Daeth Mama Glam yn realiti iddi drwy gymorth ariannol gan Fanc Busnes Prydain.

Mae eu rhaglen benthyciad cychwynnol i ddechrau busnes yn darparu benthyciadau a gefnogir gan y llywodraeth o hyd at £25,000 yr unigolyn, a hyd at uchafswm o £100,000 fesul busnes.

Yn ogystal â chyllid, gall ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn mentora am ddim, mynediad at adnoddau a chyngor.

Dillad 'addas' a 'glam'

Barn Katie yw bod Mama Glam yn cynnig dillad sy’n fwy addas ac yn fwy ffasiynol ar gyfer mamau sy’n bwydo o’r fron.

“Mae gan y dillad i gyd zips cynnil arnyn nhw ac mae’r zips yn agor o’r gwaelod i fyny,” meddai.

“Gallwch chi agor y zips gymaint â ry’ch chi eisiau, sy’n galluogi’r fron i aros yn gudd.”

Yn ôl corff StatsCymru, y llynedd roedd o leiaf 65.2% o fabanod newydd-anedig yn cael eu bwydo o’r fron yng Nghymru.

Ond 28.7% o fabanod oedd yn cael eu bwydo o'r fron erbyn iddyn nhw fod yn chwe mis oed.

Disgrifiad o’r llun,

Katie gyda'i merch Olivia, sydd bellach yn naw mis oed

Mae Katie’n credu y gallai’r ffigyrau fod yn uwch.

“Y brif broblem yw nad oes digon o gefnogaeth,” meddai.

“Ro’n i’n lwcus iawn gyda Olivia - doedd dim problemau gyda’n siwrnai bwydo o’r fron ni - ond mae llawer o fy ffrindiau wedi cael trafferth, a does dim cefnogaeth wedi bod yno i’w hysgogi nhw i barhau i fwydo o’r fron.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lizzie Potter yn credu bod "y wybodaeth yn anghyson" ar fwydo o'r fron

Un o’r rheiny oedd Lizzie Potter, 27, o Lanelli.

Cafodd Lizzie a’i babi Emilia, sydd nawr yn bum mis oed, ddechrau anodd i’w siwrnai bwydo wedi i Emilia gael diagnosis o 'tongue-tie'.

Dim ond ar ôl datrys y cyflwr llwyddodd y ferch fach i gael llaeth o’r fron.

“Dwi’n meddwl weithiau bod y gefnogaeth yn gallu teimlo fel pwysau,” meddai Lizzie.

“Yn amlwg, mae pobl yn cael trafferthion - a byddwn i ddim eisiau i unrhyw un deimlo dan bwysau i fwydo o’r fron - ond ar yr un pryd, os ydych chi eisiau, dwi’n credu bod yna ddiffyg cefnogaeth, mae’r wybodaeth yn anghyson.”

Stigma

Yn ôl Lauren Amour, 27 o Abertawe a mam Heidi, sy’n bum mis oed, y stigma ynghlwm â bwydo o’r fron sy’n rhwystro pobl rhag gwneud.

“Mae e lawr i bobl yn teimlo’n anghyfforddus,” meddai.

“Dim digon o opsiynau o ddillad neu’r negyddiaeth sy’n dod gyda bwydo o’r fron, pobl yn edrych a gwneud i bobl deimlo yn anghyfforddus.”

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lauren Amour y stigma ynghlwm â bwydo o’r fron sy’n rhwystro pobl rhag gwneud

I Katie, ei gweledigaeth ar gyfer Mama Glam yw gwneud i famau deimlo’n hyderus unwaith eto, wrth fodloni ei gofynion ffasiwn hefyd.

“Roeddwn i eisiau creu rhywbeth oedd yn rhoi hwb i famau,” meddai,

“Eu helpu i fwydo eu babanod yn gyhoeddus heb deimlo yn nerfus a heb orfod poeni am farn eraill.”

'Cyfraddau uchaf erioed'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogi teuluoedd yn rhan allweddol o'n Cynllun Gweithredu Bwydo ar y Fron, sy'n cael ei gydlynu gan arweinwyr bwydo ar y fron ym mhob bwrdd iechyd.

"Mae'r clinigwyr hyn yn rhan o Rwydwaith Bwydo Babanod Cymru, gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n monitro gwasanaethau cyfredol, nodi materion a rhannu arfer gorau.

"Rydym yn falch o adrodd mai cyfraddau bwydo ar y fron yn 2023 oedd yr uchaf erioed i blant o bob oed.

"Mae'r ffigurau hyn yn nodi tueddiadau tymor hir o gynnydd yn y cyfraddau bwydo ar y fron."

Pynciau cysylltiedig