Sefydlu banc llaeth o'r fron newydd yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
O edrych ar Eiris Thomas, merch ddwy oed o Lansamlet, does dim arwydd bellach o'r dechrau trawmatig gafodd hi mewn bywyd.
Cafodd ei geni wedi 29 wythnos, drwy lawdriniaeth cesaraidd frys yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Gan ei bod wedi ei geni mor gynnar fe benderfynodd ei mam Cath Thomas y dylai dderbyn rhodd o laeth y fron gan ddynes arall.
Fe all rhoddion llaeth o'r fron helpu babanod sy'n ddifrifol sâl neu sy'n cael eu geni'n gynnar.
'Ro'dd e'n help enfawr'
Yn ôl Cath, roedd y penderfyniad yn un hawdd: "O'dd e'n bwysig iawn, o'dd y gefnogaeth a'r cymorth ges i gan yr uned mor bwysig."
"Gan bod Eiris wedi cael ei geni'n gynnar roedd trafferthion cael llaeth o'r fron gyda fi ac felly roedd rhaid i fi gymryd y lla'th o'dd wedi cael ei roi fel rhodd i gadw hi'n iachus.
"Gan bod hi wedi cael ei geni mor gynnar ro'dd risg mawr iddi gael NEC (Necrotising Enterocolitis) ond mae llaeth y fron yn helpu i beidio cael trafferthion fel NEC - ro'dd e'n help enfawr i gadw Eiris yn iachus ac ro'dd e'n rhoi rest i fi i ddelio gyda beth oedd wedi digwydd."
Ar y pryd, doedd gan Gymru ddim banc i roi llaeth o'r fron i fabanod sy'n derbyn gofal mewn ysbyty.
Bellach mae un wedi ei sefydlu yn Ysbyty Singleton - dyma'r unig un yng Nghymru, ac mae'r rhan fwyaf o'r llaeth sy'n cael ei ddefnyddio yno yn cael ei roi gan fenywod o Gymru.
Mae mam Cath, Christine Thomas, yn dweud ei bod hi yn ddiolchgar iawn i Ysbyty Singleton am ei gofal. Dyw rhoi llaeth ddim yn beth newydd iddi hi.
Yn yr 1980au roedd hi fel nifer o fenywod eraill yn rhoi ei llaeth hi ei hun i famau eraill. Ond fe ddaeth yr arfer i ben oherwydd bod mwy o famau yn defnyddio llaeth fformiwla, a hefyd roedd pryder am HIV ac Aids.
"Mae gen i barch mawr i Cath am be' mae 'di 'neud, mae e yn ffabiwlys," meddai Christine.
'Llaeth Lloegr yn ddrud'
Yn ôl arbenigwyr, mae rhoddion llaeth yn gallu helpu o ran bwydo, twf a datblygiad. Mae hefyd yn gymorth i famau sydd angen amser er mwyn sefydlu ei cyflenwad llaeth eu hunain.
Cyn hyn bu rhaid i ysbytai yng Nghymru dderbyn llaeth yn uniongyrchol o fanciau llaeth yn Lloegr.
"Mae llaeth y fron yn arbennig o bwysig i fabis sy'n cael eu geni yn gyn-amserol achos ma' babis sy'n cael llaeth y fron yn hytrach na llaeth o botel yn cael llai o afiechydon," medd Geraint Morris, Ymgynghorydd Iechyd Plant yn Ysbyty Singleton.
"Cyn hyn os oedd amgylchiade lle roedd y fam ddim yn gallu, am ba bynnag reswm, rhoi llaeth ei hunan i'r babi roedd rhaid rhoi llaeth o'r botel i'r babi.
"Yr unig ddewis arall yng Nghymru oedd cael llaeth oedd wedi cael ei roddi o fanc llaeth yn Lloegr. Roedd hynny'n golygu bod e'n dod o bellter ac roedd yn eitha' drud i'w brynu.
"Hefyd doedd dim modd i fenywod yn y cylch yma i roi eu llaeth achos roedd e'n rhy bell iddyn nhw gymryd y llaeth i gael ei brosesu.
"Fe fydd y llaeth yn gallu mynd i ba bynnag unedau yng Nghymru sy' angen cyflenwadau, ond ar hyn o bryd, a bod yn realistig mae'n debyg mai gwasanaeth fydd hwn ar gyfer unedau yn y de ac yn fwyaf arbennig y de orllewin."
'Ishe rhoi rywbeth nôl'
Fe gafodd bachgen bach Sarah Cude, Jacob, ei eni wyth wythnos yn gynnar yn 32 wythnos, ac aed ag ef i'r uned gofal arbennig.
Roedd ei fam am iddo gael llaeth o'r fron ond roedd angen amser arni hi i'w chyflenwad llaeth ei hun ddod, ac felly fe benderfynodd roi llaeth iddo oedd wedi ei roi gan fenywod eraill.
"Mae'n wych fod y llaeth rhodd ar gael. Yn fy achos i roedd yn helpu i sicrhau fod Jacob yn cael y budd o laeth o'r fron yn syth," meddai.
Dywedodd fod hyn hefyd wedi codi pwysau oddi ar ei hysgwyddau hi a lleihau y pryder ynglŷn â sicrhau bod ei phlentyn yn cael digon o fwyd.
Roedd hefyd yn golygu ei bod hi'n cael amser i gryfhau cyn dechrau rhoi llaeth ei hun i'w babi.
Mae Sarah nawr yn y broses o gofrestru i roi llaeth ei hun i'r banc llaeth newydd yn Ysbyty Singleton.
"Rwy'n teimlo mod i ishe rhoi r'wbeth 'nôl achos rwy' mor ddiolchgar," ychwanegodd.
Fe fydd yna broses sgrinio drwyadl ar gyfer pawb sy'n cynnig rhoi llaeth a phrofion gwaed.
Fe fydd cyfranwyr wedyn yn rhoi o leiaf dau litr o laeth dros gyfnod o 10 wythnos. Bydd y llaeth yn cael ei basteureiddio ac yna ei rewi yn barod ar gyfer y babanod sydd ei angen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2019