Mwy o amser o'r gwaith i rieni babanod cynnar yn 'drawsnewidiol'

Cafodd Mari Glyn, merch Bethan a Carwyn ei geni wedi 31 wythnos a bu'n rhaid ei chadw mewn uned gofal newydd-anedig am rai wythnosau
- Cyhoeddwyd
Bydd rhieni sydd â babanod mewn uned newydd-anedig yn cael yr hawl i gael rhagor o amser i ffwrdd o'r gwaith o fis Ebrill.
Mae elusen flaenllaw wedi disgrifio'r newid fel un "trawsnewidiol" o ran y gefnogaeth y bydd rhieni mewn sefyllfa o'r fath yn ei dderbyn.
Dywedodd un fam sydd wedi profi geni baban yn gynnar, fod y ddeddf hon i'w chroesawu ac yn "tynnu straen" oddi ar rieni yng "nghyfnod anoddaf eu bywydau".
Dywed Llywodraeth y DU bod disgwyl i tua 60,000 o rieni gael budd o'r rheolau newydd yn flynyddol.
Bydd y newid yn dod i rym ar 6 Ebrill.
'Cyfnod mwyaf anodd eu bywyd'
Fe wnaeth Llywodraeth y DU basio'r mesur ar 20 Ionawr eleni, a bydd yn sicrhau bod rhieni yn gallu cael amser i ffwrdd o'r gwaith - â thal llawn mewn rhai amgylchiadau - pan fo'u plentyn newydd-anedig yn yr ysbyty.
Ar hyn o bryd mae nifer o rieni'n gorfod dychwelyd i'r gwaith tra bod eu babi yn parhau i dderbyn gofal yn yr ysbyty.
Dywedodd Bethan Wyn sy'n byw yng Nghaerfyrddin ei bod yn "croesawu'r" newid, a hynny ar ôl iddi brofi cyfnod heriol yn dilyn genedigaeth gynnar ei merch, Mari Glyn.
Cafodd Mari Glyn ei geni wedi 31 wythnos yn Ysbyty St Michaels ym Mryste, a bu'n rhaid ei chadw mewn uned gofal i fabanod newydd-anedig am rai wythnosau.
Er bod Bethan yn cydnabod iddi hi a'i gŵr fod mewn sefyllfa ffodus wrth dderbyn cefnogaeth gan eu cyflogwyr, dywedodd nad dyma yw'r stori i bawb.
"Byse nifer fawr iawn o rieni yn gorfod dychwelyd i'r gwaith neu yn gorfod derbyn cyfnod yn ddi-dâl sy'n rhoi straen ychwanegol ar y cyfnod mwyaf anodd yn eu bywydau."

Dywedodd Bethan Wyn iddi "lythyru fy aelod seneddol" i drafod y sefyllfa
Dywedodd bod y sefyllfa yn "torri dy galon di, achos ti'n gwybod lle sydd angen i ti fod ac os gyda dy blentyn di yw hwnna, dyna'r lle'r pwysicaf i ti fod".
"Ar y pryd oedd e wirioneddol yr adeg anodda' yn ein bywydau ni.
"Bydde cael y straen o orfod meddwl pa incwm sydd gyda ni yn dod mewn neu fod yr amser yn cael ei dorri'n fyr a bydde'n rhaid i un ohonom ni fynd 'nôl i'r gwaith, bydde hwnna just yn gwbl gwbl annheg a than nawr dyna'r sefyllfa sydd wedi bod i nifer fawr o rieni.
"Mae'n wirioneddol arbennig bod nhw wedi cyflwyno hwn lle mae'n cymryd y straen 'na oddi wrth y rhieni."
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
Wrth sôn am ei phrofiad hi, dywedodd mai ym mis Chwefror yr oedd disgwyl i Mari Glyn gael ei geni, ac felly mai ym mis Chwefror oedd ei chyfnod mamolaeth i fod i gychwyn, ond fe gychwynnodd fis Rhagfyr yn lle.
Gyda nifer wedi bod yn ymgyrchu dros yr achos ers cryn amser, dywedodd bod ei diolch yn fawr i'r elusennau a'r aelodau seneddol sydd wedi brwydro i sicrhau bod y ddeddf mewn lle.
"Dwi wedi bod yn dilyn yr ymgyrch, o'n ni'n un o'r rhai na'th lythyru at fy aelod seneddol ar y pryd felly diolch iddyn nhw am yr holl waith."
Beth yw'r ddeddf newydd?
Bydd modd i rieni sydd â babanod hyd at 28 diwrnod oed ac mewn uned ofal newydd-anedig ac sy'n aros yn yr ysbyty am saith diwrnod llawn neu yn hwy ennill cyflog llawn, tra'n cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith;
Bydd y mesurau hyn yn caniatáu i rieni cymwys gymryd hyd at 12 wythnos o absenoldeb (ac, os ydynt yn gymwys, tâl) ar ben unrhyw absenoldeb arall y gallent fod â hawl iddo, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth.
Bydd y newid yn dod i rym ar 6 Ebrill 2025 yn dilyn pasio'r Ddeddf Gofal Newydd-enedigol (Gadael a Thâl) yn 2023.
Datblygiad 'trawsnewidiol'
Mae un elusen sydd wedi bod yn galw am y newid yma ers amser yn dweud bod y datblygiad yn "drawsnewidiol".
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Rheolwr Ymgyrchoedd elusen Bliss, Beth McCleverty, fod y newid hwn am fod yn "drawsnewidiol" i rieni sy'n mynd trwy'r cyfnod anodd yna.
"Mae'n gyfnod trawmatig iawn i rieni... gorfod gadael eich babi bob noson am fisoedd."
"Bydd y newid yn drawsnewidiol i'r rhieni yna sy'n gymwys. Yn aml mae'n rhaid i'r rhieni ddewis rhwng dychwelyd i'r gwaith neu bod gyda'u babi sâl yn yr ysbyty."
Aeth ymlaen i ddweud y bydd y ddeddf yn golygu y bydd llawer mwy o gefnogaeth i rieni ac y bydd yn cael "effaith amlwg ar iechyd meddwl rhieni sy'n mynd trwy gyfnod trawmatig iawn".
"Mae'n shifft enfawr i gael mwy o gefnogaeth i'r rhieni."
Dywed Llywodraeth y DU ei bod wedi "ymrwymo i gefnogi teuluoedd sydd angen bod wrth ymyl eu plentyn heb orfod gweithio neu ddefnyddio gwyliau".
"Ar hyn o bryd mae miloedd o deuluoedd gweithiol ar draws y DU yn gorfod dychwelyd i'r gwaith tra bod eu babanod yn sâl yn yr ysbyty ac mae'r mesur yma yn gobeithio cydnabod rhai o'r rhwystrau y mae miloedd o deuluoedd yn wynebu pan bod eu baban mewn gofal newydd-anedig."