Ymgyrch prynu Ysgol Cribyn wedi derbyn £500,000 o arian loteri

Bydd yr arian loteri yn golygu y bydd modd i'r gymuned fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau i brynu Ysgol Cribyn
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch i godi arian i brynu hen ysgol yng Ngheredigion a'i throi'n ganolfan gymunedol wedi llwyddo i sicrhau £500,000 o arian y Loteri Cenedlaethol.
Bydd hyn yn golygu y bydd modd i'r gymuned fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau i brynu Ysgol Cribyn a'i datblygu'n ganolfan gymdeithasol ac addysg leol.
Roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi'r cynnig cyntaf i'r gymuned leol i brynu'r ysgol, ac roedd ganddynt tan fis Gorffennaf 2024 i godi £175,000.
Er codi £70,000 mewn cyfranddaliadau, nid oedd yn ddigon i brynu'r adeilad ac fe aethpwyd ati i geisio sicrhau arian cyhoeddus.
Mae cronfa'r Loteri Genedlaethol newydd gyhoeddi eu bod yn rhoi £500,000, y swm uchaf mae'n bosib iddynt ddyfarnu, a bydd hyn yn galluogi'r pryniant a'i ddatblygiad.
Ysgol Cribyn - Cywydd gan Ianto Jones
Yn ôl Euros Lewis o Gymdeithas Clotas: "Fethon ni â phrynu'r ysgol ym mis Gorffennaf diwethaf, achos roedd eisiau £100,000 arall arnon ni.
"Mae'r arian loteri yn holl bwysig oherwydd 'na'r unig ffynhonnell, bron a bod, oedd yn galluogi ni i lenwi'r bwlch rhwng be oedden ni wedi'i godi'n hunain a be oedden ni ei angen.
"Gaethon ni addewid o £195,000 gan Lywodraeth Cymru ond doedd hwnnw ddim yn gallu cael ei ddefnyddio tuag at y pryniant, ond i gynorthwyo'r gwaith o uwchraddio'r ysgol, felly mi roedd yn ddibynnol ar arian y loteri gan bod arian y loteri yn rhydd ac yn gallu cael ei ddefnyddio i brynu'r ysgol."
'Cyfnod cyffrous newydd'
Gan mai dim ond wyth o blant oedd yn y pentref, caewyd Ysgol Cribyn yn 2009.
Ffurfiwyd Cymdeithas Clotas bryd hynny er mwyn cynnal digwyddiadau yn yr adeilad gyda'r nos ac ar benwythnosau a denu newydd-ddyfodiaid i'r ardal i'r iaith a diwylliant Cymraeg.
Parhaodd y trefniant i weithio'n dda nes i'r ysgol gael ei throi'n storfa llawn adnoddau diogelwch rhag Covid yn ystod y cyfnod clo.
"Ma' hwn yn newyddion bendigedig!" meddai Alan Henson, Cadeirydd y fenter.
"Wrth i gyfnod y clo mawr ddod i ben, roedd hi'n sefyllfa ddiflas yng Nghribyn.
"Ddeunaw mis yn ôl – wedi i Geredigion droi'r ysgol yn storfa – doedd 'da ni ddim unman i gwrdd, a nawr, dyma ni ar drothwy cyfnod cyffrous newydd yn ein hanes, cyfnod o edrych yn hyderus tuag at y dyfodol."

Cynhaliwyd noson i lansio'r ymgyrch i godi arian ym mis Mawrth 2024
Ym mis Hydref 2023, cynhaliwyd cyfarfod i drafod y posibilrwydd o greu Cwmni Budd Cymdeithasol, sef menter gydweithredol.
Cydsyniodd Cyngor Ceredigion yn Ionawr 2024 i werthu'r adeilad i'r gymdogaeth.
Ers mis Mawrth 2024, mae digwyddiadau wedi bod yn cael eu cynnal yn y pentref, sydd â phoblogaeth o ryw 300 o bobl, i godi arian ac i werthu cyfranddaliadau yn yr adeilad.
"Ers hynny ma pethe wedi symud yn eitha cloun" medd Alan Henson.
"Codi £70,000 yn lleol fisoedd Ebrill a Mai diwetha, wedyn cael £195,000 gan Gronfa Adnoddau Cymunedol Llywodraeth Cymru jyst cyn Dolig, a nawr, ennill y loteri! Bendigedig! Sdim gair arall amdani!"
Rhoi bywyd newydd i'r pentref

Lansiwyd gwasanaeth bws cymunedol 'Siarabang Cribyn' fis Hydref y llynedd
Ar ôl prynu'r ysgol a'i datblygu, y cam nesaf fydd sicrhau ffynhonnell arall o arian i droi'r tŷ'r ysgol gynt yn gartref fforddiadwy ar gyfer teulu ifanc lleol.
"Mae hyn yn sylfaenol bwysig," yn ôl Euros Lewis, "nid yn unig mae'n creu incwm ar gyfer y ganolfan addysg, ond mae e hefyd yn bwrw y brif broblem pam gaewyd yr ysgol yn y lle cyntaf, sef diboblogi – bo' ni'n colli teuluoedd ifanc mas o'r pentre."
Mae'r Gymdeithas hefyd wedi gweld newid mawr mewn agwedd o fewn y boblogaeth leol ers dechrau'r ymgyrch, ac wedi denu wynebau newydd i fod yn rhan o'r bwrlwm cymdeithasol.
"Mae 90% o'r arian ni wedi'i godi yn dod o Cribyn ei hunan," ychwanega Euros Lewis, "ac yn sgil y brwdfrydedd yna, be ni wedi'i weld yw awydd mawr i daclo problemau eraill sydd yn yr ardal, fel, er enghraifft, does dim gwasanaeth bws o gwbl yn Cribyn.
"Yn ystod y misoedd diwethaf, ry'n ni, mewn partneriaeth gyda Dolen Teifi, wedi dechrau ein gwasanaeth bws ein hunain gyda gwirfoddolwyr yn dreifio."

Clwb wythnosol Paned a Chlonc yn Ysgol Cribyn, sy'n gyfle i newydd-ddyfodiaid ddod i adnabod cymdogion a chael eu cyflwyno i'r Gymraeg
Mae nhw hefyd wedi dechrau cynnal boreau coffi yn y pentref ar gyfer pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu rai sydd newydd symud i'r ardal er mwyn cynnig cyfle iddyn nhw gymdeithasu a sgwrsio.
"Mae 'na awydd wedi codi yn y pentre," medd Euros Lewis "shwt gallwn ni wella pethe, gwella y gymdogaeth hon ein hunain, yn hytrach nag aros i rywun o'r tu allan ein helpu.
"Mae cymryd perchnogaeth o'r ysgol yn un cam, ond un cam yn unig yw hwn.
"Mae'n gam mawr, cyffrous, ond un cam yn y broses yma o ddatblygu mentrau ein hunain o ddatblygu a rhoi'n hegni ein hunain ar waith i ddatblygu datrysiadau lleol i broblemau lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd7 Mai 2024
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2024