Ymgyrch i brynu hen ysgol gynradd yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch gymunedol ar droed i gyd-brynu hen safle Ysgol Cribyn yng Ngheredigion.
Bwriad Cymdeithas Clotas yw datblygu’r lle yn neuadd gymunedol ac yn gartref fforddiadwy.
Mae’n rhaid iddyn nhw godi £175,000 cyn mis Gorffennaf.
Maen nhw'n dweud eu bod hanner ffordd drwy eu hymgyrch a bod yr arian eisoes yn cronni a'r diddordeb yn tyfu.
Maen nhw wedi gosod chwe wythnos o amser iddyn nhw’u hunain i godi’r arian.
'Arian yn cyrraedd bob dydd'
I nodi eu bod hanner ffordd drwy’r cyfnod ac i gadw’r diddordeb, cynhaliwyd ‘parti hanner ffordd’ yn yr ysgol nos Wener, gyda lansiad cywydd arbennig gan fardd lleol, Ianto Jones.
Mae’r gymdeithas wedi bod yn cynnal digwyddiadau i godi arian ac yn gwerthu cyfranddaliadau yn yr adeilad.
Yn ôl Euros Lewis o Gymdeithas Clotas: “O ran y cyfranddaliadau, yr isafswm yw £100, ac mae’r arian yn cyrraedd bob dydd.
"Ni’n hapus i weld cyfranddaliadau uwch na hynny wrth gwrs, ond mae fyny i bobl roi fel maen nhw’n gallu - hyd yn oed os ydi o’n £10 y mis am gyfnod.
“Yn anffodus, ni ymhell o hanner ffordd o ran ein targed ariannol, ond be sy’n bwysig ydi bod yr arian yn dal i ddod i mewn. Mae 'na arian yn cronni bob dydd.”
'Cymaint o aelodau â phosib'
Mae cyfanswm yr aelodau yn bwysig iawn i’r grŵp llywio hefyd.
Ychwanegodd Mr Lewis: “Be' sy’n fwy pwysig ydi bod ganddom ni gymaint o aelodau ag sy’n bosib i gymryd perchnogaeth o’r syniad ac o’r lle.
“Dwi’n gobeithio bydd pobl yn cymryd y cyfle i brynu’u siâr, a dio’m bwys os yn £100 neu’n £1,000, yr un llais fydd ’da nhw wrth drafod datblygiadau’r ysgol.”
Pan gaewyd yr ysgol yn 2009, ffurfiwyd Cymdeithas Clotas er mwyn cynnal digwyddiadau yn yr adeilad gyda’r nos ac ar benwythnosau a denu newydd-ddyfodiaid i’r ardal i’r iaith a diwylliant Cymraeg.
Mae’r gymdeithas yn fath o senedd bentref sydd â chynrychiolydd o bob mudiad yn y gymdogaeth.
Mae’r gymdeithas wedi ail-sefydlu Ffair Sant Silin, cynnal dathliadau Gŵyl Ddewi, 'steddfodau dwl, twmpathau dawns, dosbarthiadau barddoni a lansiadau llyfrau.
Ym mis Hydref 2023, cynhaliwyd cyfarfod i drafod y posibilrwydd o greu Cwmni Budd Cymdeithasol, sef menter gydweithredol.
Ers hynny, maen nhw wedi penodi swyddog datblygu’r prosiect, Elliw Dafydd, i edrych ar ffyrdd o geisio am arian cyhoeddus sy’n cefnogi datblygiadau cymunedol.
Ar ôl pwyso ar y cyngor sir i ryddhau’r adeilad, fe gymeradwywyd hynny ym mis Ionawr ac mae’r cynnig ar agor nawr i’r gymuned ei phrynu.
Lansiwyd yr ymgyrch godi arian dair wythnos yn ôl ac mae’r penseiri lleol wedi dechrau creu cynlluniau go iawn ar gyfer troi rhan helaetha’r adeilad yn ganolfan gymunedol.
Yn ôl Euros Lewis: “Mae’r adeilad yn syndod o fawr. Mae ’na ddwy ystafell ddosbarth gyda phartisiwn lawr y canol.
"O’i hagor, mae’n ofod braf fel neuadd bentref. Ni am gadw’r hen syniad o bared er mwyn cynnal hyblygrwydd yr adeilad.
“O dan yr adeilad, yn un pen, mae ’na stafell fawr, fel seler, lle roedd y plant yn cael eu cinio s'lawer dydd. Mae’n stafell llawn posibiliadau a’r syniad i’w ei defnyddio ar gyfer dosbarthiadau llesiant, corff a meddwl.”
Tŷ’r ysgol yn gartref fforddiadwy
Bydd tŷ’r ysgol gynt yn cael ei droi’n gartref fforddiadwy ar gyfer teulu ifanc lleol ac mae’r broses o geisio am ganiatâd cynllunio wedi dechrau.
Yn ôl Euros Lewis: “Ni am gyfeirio'n ôl at pan gaewyd yr ysgol yn y lle cyntaf gan fod prinder o deuluoedd ifanc a phlant yn y pentref.
"Ni am ddangos bod Cribyn yn lle da i fagu plant ac am gynnig y tŷ hwn fel tŷ fforddiadwy i deulu ifanc.”
Fel roedd yr ysgol yn ganolbwynt i’r gymuned ers talwm, bwriad y ganolfan, yn ôl Euros Lewis, yw cynnig yr un ffocws.
“Ers y cyfnod Covid, mae angen y ganolfan ’ma hyd yn oed yn fwy.
"Ni ddim jyst yn trio cynnal cymdeithas a chymdogaeth yma, ni hefyd am symud pethe 'mlân, am ei thyfu, gan ddenu pobl ifanc i fod eisiau byw yma, magu teulu yma, bod yn ran o gymdeithas naturiol Gymraeg.
"Ni hefyd am gynnwys mewnfudwyr, ond gyda’r Gymraeg yn arweiniol - mae hynny’n allweddol i ddod yn rhan o’r gymdeithas.”
Mae ceisio tynnu pawb at ei gilydd ac addysgu plant, pobl ifanc a mewnfudwyr am hanes yr ardal, ei daearyddiaeth, ei hiaith a’i diwylliant hefyd yn rhan o fwriad y ganolfan er mwyn magu’r syniad o berthyn i ardal.
Ychwanegodd Euros Lewis: “Yn y cyfarfodydd trafod, roedd llawer yn gweld potensial y ganolfan hon i roi cyd-destun - yn amgylcheddol, byd natur a diwylliant - i blant a phobl ifanc a mewnfudwyr yr ardal, rhoi synnwyr o bwy ydyn nhw a lle maen nhw’n byw.”
Mae’r ceisiadau am arian cyhoeddus wedi'u cyflwyno ac mae’r grŵp llywio wedi cael ymateb addawol gan swyddogion y cronfeydd sydd wedi ymweld â’r lle.
Maen nhw’n dawel hyderus y daw’r arian cyn mis Gorffennaf i brynu’r adeilad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd25 Medi 2023
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2023