Y plant o Geredigion sy'n rapio i wella eu cymuned

Gobaith y rapwyr ifanc yw codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd glanhau baw ci
- Cyhoeddwyd
Mae plant ysgol o Geredigion wedi cyfansoddi cân rap mewn ymgais i fynd i'r afael â chynnydd mewn baw ci sydd o gwmpas y pentref.
Mae Trafferthion Llanilar yn ymgyrch newydd sydd wedi ei sefydlu yn ysgol gynradd y pentref i geisio mynd i'r afael â phroblemau o fewn y gymuned.
Mae'r disgyblion hefyd wedi cwrdd ag aelodau o'r cyngor cymuned lleol gyda'u syniadau am sut i wneud y pentref yn le gwell i fyw.
Wrth i'r disgyblion barhau i godi ymwybyddiaeth, y gobaith yw y bydd y gwaith yn arwain at greu cymuned lanach a fwy cyfrifol yn y dyfodol.

Mae'r plant yn dweud bod cynydd mewn baw ci yn y parc beics
Yn rhwystredig ac yn siomedig gyda'r broblem gynyddol o faw cŵn yn y pentref, mae disgyblion fel Aneurin, sy'n 11 oed, wedi bod yn rhan o'r ymgyrch lanhau.
Fe ddywedodd: "Da ni wedi creu'r prosiect o'r enw Trafferthion Llanilar achos i ni wedi sylwi bod lot o faw ci a bach o graffiti a sbwriel o gwmpas y lle a dyw e just ddim yn neis.
"Chi ishe mynd rownd a meddwl mae hwn yn lle really neis i fyw, a ma fe yn, ond chi yn gweld y sbwriel a chi'n meddwl falle bod e ddim mor neis.
"Pan chi'n mynd â'r ci am wâc lawr y llwybr seiclo a mae 'na baw ci yn bobman, maen afiach."

Mae Aneurin, sy'n 11 oed, yn siomedig gyda'r cynnydd mewn baw cwn
Ategu barn Aneurin mae Luna, sy'n byw ym mhentref Llanilar.
Meddai: "Fi wedi stepio ynddo fe o'r blaen ac maen ddrwg i blant bach, yn gallu bod yn beryglus, ac yn ych a fi.
"Ni'n gobeithio gwneud i bobl wrando ar ein lleisiau ni a thrio cael pobl i bigo lan y baw ci a'i roi yn y bin."

Poeni am beryglon y baw ci i fywyd gwyllt a phlant ifanc mae Luna
Mae'r gwaith yn rhan o'r Cwricwlwm i Gymru newydd, sy'n cael ei gyflwyno'n raddol erbyn 2026, ac yn rhoi mwy o lais i'r disgyblion mewn llywio eu haddysg.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd cyfarfodydd gyda Chyngor Cymuned Llanilar yn parhau, gyda'r plant yn cynghori ar gynlluniau am barc newydd i'r ardal.
Yn ogystal â chyfarfodydd gyda chynrychiolwyr y cyngor i drafod datrysiadau, mae disgyblion blynyddoedd 3 a 4 wedi ysgrifennu a pherfformio rap, gan geisio mynd i'r afael â phwysigrwydd cadw'r pentref yn lân.
Yn y cyfamser, bu plant y cyfnod sylfaen yn casglu sbwriel yn y pentref gan greu gwaith celf o'r hyn gafodd ei gasglu.

Mae'r ysgol gyfan wedi mynd i ysbryd yr ymgyrch i lanhau cymuned Llanilar
Mae'r gwaith wedi dod â'r gymuned a'r ysgol "ynghyd" yn ôl Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar, Gregory Veary-Roberts.
"Rydym ni yn yr ysgol yn ceisio creu profiad dysgu lle mae llais y plentyn yn bwysig, gan eu cynnwys gyda'r cynllunio o fewn yr ysgol", meddai.
"Y cwricwlwm newydd yma yng Nghymru sydd yn galluogi ni wneud hynny. Mae'n beth braf i roi'r cyfleoedd yma i'r plant a bod nhw yn cael y cyfle i arwain y dysgu mewn prosiectau fel hyn.
"Mae'r plant wedi mwynhau'r prosiect cymaint ac wedi cael gwerth o'r gwaith i ddangos iddyn nhw pa fath o effaith maen nhw'n gallu neud i newid y byd o'u cwmpas."