Colled drom i'r Seintiau yng Nghynghrair y Pencampwyr

Daniel RedmondFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Neuadd y Parc nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Fe gollodd Y Seintiau Newydd o 5-0 yn eu cymal cyntaf yn erbyn pencampwyr Hwngari, Ferencváros yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Roedd wynebu tîm o safon Ferencváros - y clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed Hwngari - yn Budapest wastad am fod yn her enfawr i'r Seintiau.

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen wedi bron i chwarter awr wrth i beniad Adama Traore o ochr dde'r cwrt cosbi hedfan i gornel bella'r rhwyd.

Daeth ail gôl Ferencváros bum munud yn ddiweddarach, gyda Traore yn crymanu'r bêl heibio Connor Roberts yn dilyn gwaith da gan Alexandar Pesic.

Roedd hi'n dair wedi 24 o funudau wrth i Kristoffer Zachariassen daro croesiad Marquinhos i gornel isa'r rhwyd.

Fe dyfodd tîm Craig Harrison i mewn i'r gêm gan greu ambell i hanner cyfle cyn yr egwyl, cyn i ergyd Jordan Williams o du allan i'r cwrt cosbi daro'r trawst.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Seintiau gyrraedd yr ail rownd ragbrofol ar ôl curo FK Dečić - pencampwyr Montenegro - yn y rownd gyntaf

Mae carfan Ferencváros yn cynnwys sawl chwaraewr rhyngwladol - gyda dau aelod o'u carfan nos Fawrth yn rhan o garfan Hwngari yn Euro 2024.

10 munud wedi'r egwyl fe sgoriodd Traore ei drydedd gôl - peniad arall o ganol y cwrt cosbi o groesiad Cristian Ramirez.

Daeth pumed gôl Ferencváros o'r smotyn wedi 61 o funudau.

Cafodd Zachariassen ei dynnu lawr yn y cwrt cosbi gan Jordan Williams, ac fe ergydiodd Marquinhos yn gywir o 12 llath.

Gyda 10 munud yn weddill fe wnaeth yr eilydd Declan McManus fethu cyfle euraidd i gwtogi mantais y tîm cartref, ond fe ergydiodd yn syth at y golwr.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt nos Fawrth 30 Gorffennaf.

Fe fydd yr enillydd dros ddau gymal yn wynebu un ai UE Santa Coloma o Andorra neu FC Midtjylland yn y drydedd rownd rhagbrofol.

Pynciau cysylltiedig