Y Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Seintiau Newydd allan o rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr ar ôl cael cweir gan bencampwyr Hwngari, Ferencváros.
Roedd y Seintiau eisoes wedi colli cymal cyntaf yr ail rownd ragbrofol 5-0 oddi cartref yr wythnos ddiwethaf.
Ferencváros oedd yn fuddugol yn yr ail gymal yn Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt nos Fawrth hefyd, a hynny o 2-1, gan olygu ei bod hi'n 7-1 ar gyfanswm goliau.
Sgoriodd Kristoffer Zachariassen i roi'r ymwelwyr ar y blaen nos Fawrth, cyn i Philippe Rommens ddyblu'r fantais o'r smotyn.
Sgoriodd Josh Daniels gôl gysur i'r tîm cartref yn ystod y ddwy funud o amser ychwanegol, ac roedd y Seintiau'n haeddu gôl yn dilyn perfformiad mwy cyfartal yn yr ail gymal.
Ond dyw'r golled ddim yn golygu bod ymgyrch Ewropeaidd pencampwyr Cymru ar ben.
Mae nhw nawr yn symud i drydedd rownd ragbrofol Cyngrair Europa a'u gwrthwynebwyr nesaf fydd pencampwyr Moldofa, Petrocub, ar 8 Awst.
Bydd Caernarfon yn herio Legia Warsaw y Stadiwm Nantporth Bangor nos Iau yn ail gymal ail rownd rhagbrofol Cyngres Uefa, wedi iddyn nhw hefyd gael colled drom yn y cymal cyntaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2024