Marwolaeth dyn ddisgynnodd o neuadd breswyl yn ddamwain
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi dod i'r casgliad fod marwolaeth myfyriwr wnaeth ddisgyn o ffenestr un o neuaddau preswyl Prifysgol Abertawe yn ddamwain.
Bu farw Matthew Gilbert, oedd yn 19 oed ac yn dod o Solihull, o'i anafiadau dros wythnos ar ôl y digwyddiad yn oriau mân 14 Ebrill y llynedd.
Clywodd y cwest fod Mr Gilbert wedi cymryd sawl cyffur gwahanol cyn disgyn o chweched llawr yr adeilad ar gampws Singleton y brifysgol.
Dywedodd y crwner nad oedd yn credu fod Mr Gilbert yn ymwybodol ei fod ar y chweched llawr pan ddisgynnodd, ac felly daeth i'r casgliad ei bod yn farwolaeth ddamweiniol.
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2024
Clywodd y cwest yn Abertawe fod Mr Gilbert wedi bod yn smocio canabis gyda ffrind ar y noson dan sylw, cyn cymryd 'magic mushrooms' a'r cyffur ketamine.
Mae'n debyg bod y ddau wedi dechrau teimlo'n aflonydd ond bod ei ffrind wedi disgyn i gysgu yn ddiweddarach.
Fe wnaeth Mr Gilbert adael y 'stafell, ac fe gafodd ei weld yn cerdded ar hyd y coridor yn ceisio agor drysau i wahanol 'stafelloedd.
Cafodd ei glywed yn gweiddi, ac fe wnaeth myfyrwyr eraill - oedd wedi eu heffeithio gan ei ymddygiad - ofyn iddo adael.
Clywodd y cwest ddydd Mawrth fod Mr Gilbert wedi achosi difrod i'r gegin ar y chweched llawr, cyn gwthio'r ffenestr - oedd ag offer i'w atal rhag agor yn llawn - yn agored a disgyn.
Defnyddio'r achos i addysgu eraill
Dywedodd mam Mr Gilbert, Lindsay wrth y cwest ei bod hi'n poeni nad oedd rhai myfyrwyr yn deall peryglon ketamine a bod angen i eraill fod yn ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd i'w mab.
Ychwanegodd fod y teulu wedi eu llorio, ond nad oedd problem ganddi weld achos ei mab yn cael ei ddefnyddio i addysgu eraill.
"Dydw i ddim am i'r cyfan gael ei frwsio dan y carped," meddai.
Dywedodd crwner cynorthwyol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Aled Gruffydd, fod Mr Gilbert wedi marw o ganlyniad i sawl anaf wedi iddo ddisgyn.
Roedd Mr Gilbert wedi drysu ac mewn panig o ganlyniad i'r cyffuriau a'r alcohol oedd yn ei system, ond yr anafiadau wnaeth achosi ei farwolaeth, meddai.
Yn ôl Mr Gruffydd, doedd Matthew Gilbert ddim yn ymwybodol o'r ffaith ei fod ar lawr mor uchel pan ddisgynnodd o'r adeilad, ac o ganlyniad, roedd ei farwolaeth yn ddamwain.