Apêl wedi gwrthdrawiad angheuol ar Lannau Dyfrdwy

eddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion a gwybodaeth ar ôl i ddyn farw wedi gwrthdrawiad ar Bont Sir y Fflint ar Lannau Dyfrdwy nos Sadwrn.

Cafodd swyddogion eu galw toc wedi 18:00 i'r gwrthdrawiad a oedd yn gysylltiedig ag un cerbyd, sef beic modur, ar yr A548 yng Nghei Conna.

Bu gyrrwr y beic modur farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Donna Vernon o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Mae ein meddyliau gyda theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi gweld y beic modur yn teithio ar hyd yr A548 cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.

"Rydym hefyd yn annog unrhyw un a allai fod â lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng a allai ddangos yr eiliadau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni."

Ychwanegodd yr heddlu eu bod am ddiolch i yrwyr a'r gymuned leol am eu hamynedd wrth i'r ffordd barhau ar gau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig