Ymchwilio i farwolaeth menyw mewn afon yn Sir Gâr

Afon Cothi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff y fenyw ei ganfod yn Afon Cothi ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn marwolaeth menyw mewn afon yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Afon Cothi ym Mhontargothi ger Nantgaredig am 17:41 ar 6 Mai yn dilyn adroddiadau bod rhywun yn yr afon.

Cafodd corff menyw ei dynnu o'r afon ac mae ei theulu wedi cael gwybod.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i achos marwolaeth y fenyw, ond nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd.

Pynciau cysylltiedig