Dedfrydu tiwtor coleg am greu lluniau anweddus o blant

Ian Powell yn cyrraedd Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau
Disgrifiad o’r llun,

Ian Powell yn cyrraedd Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae darlithydd yng Ngholeg Gwent wedi osgoi cael ei anfon i'r carchar ar ôl cyfaddef rhannu lluniau anweddus gyda chyn fyfyrwraig fregus.

Fe gafodd Ian Powell, sy'n 60 oed ac o bentref Bettws yn Sir Fynwy, ddedfryd o 10 mis o garchar, wedi ei gohirio am ddwy flynedd.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd, dywedodd y Barnwr Shomon Khan ei fod "wedi rhoi eich anghenion rhywiol o flaen lles y ferch" wedi iddi adael y coleg.

Ychwanegodd bod gyrfa'r diffynnydd ar ben a'i fod "yn haeddu hynny".

Plediodd Powell yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blentyn.

Clywodd y llys ei fod wedi derbyn lluniau a fideos o'r fenyw ifanc, gan gynnwys saith yn y categori mwyaf difrifol, Categori A.

Roedd yna wyth o luniau Categori B a 32 o rai Categori C.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Casnewydd

Clywodd y llys ei fod wedi cael ei weld yn cusanu'r ferch mewn parc lleol.

Daeth Coleg Gwent i wybod am y berthynas ac fe ymchwiliodd yr heddlu i'r sefyllfa.

Dywedodd y fenyw ifanc ei fod yn ystyried Powell fel "ffigwr tadol" i ddechrau ond fe ddatblygodd y berthynas i fod yn un rhywiol wedi iddi orffen ei haddysg.

Mewn datganiad personol, dywedodd y fenyw ei bod "heb sylweddoli pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa" a'i bod yn "teimlo'n wael fy mod yn cael rhywun i drwbl".

Ychwanegodd: "Roedd pobl yn dweud wrtha'i nad fy mai i oedd e."

Cafodd Powell ei arestio fis Rhagfyr y llynedd.

'Chi yn unig sydd ar fai'

"Plentyn yn unig" oedd y dioddefwr, meddai'r barnwr, ac roedd hi "yn amlwg yn fregus o ystyried ei hamgylchiadau a'i hoedran".

"Chi yn unig sydd ar fai," dywedodd wrth y diffynnydd. "Ni allaf ddeall pam wnaethoch wneud hyn. Mae'n ddirgelwch llwyr i mi."

Bydd yn rhaid i Powell wneud 30 diwrnod o weithgareddau ailsefydlu a 150 o oriau o waith di-dâl, a thalu £337 mewn costau.

Dywedodd Monique McKevitt o Wasanaeth Erlyn Y Goron bod Powell "yn ymwybodol o oedran y dioddefwr ond parhaodd i gyfnewid negeseuon amhriodol o natur rywiol i fodloni ei ddymuniadau rhywiol ei hun".

"Fel tiwtor coleg, roedd yn gwybod ei fod ar fai.

"Roedd cryfder y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron, gan gynnwys tystiolaeth o ffôn symudol, yn golygu nad oedd gan Powell fawr o ddewis ond pledio’n euog."

Pynciau cysylltiedig