Y cyn-AS Gwynoro Jones yn pledio'n ddieuog i ymosodiad rhyw

Gwynoro Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwynoro Jones ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin ym 1970 a 1974

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-Aelod Seneddol Llafur, Gwynoro Jones, wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar fenyw.

Cafodd Mr Jones, 82, ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin ym 1970 a 1974.

Ddydd Gwener, fe glywodd Llys y Goron Abertawe honiad fod y cyn-wleidydd a darlledwr wedi cyffwrdd menyw heb ganiatâd tra ar drên ar 11 Mehefin 2024.

Clywodd y llys fod y digwyddiad honedig wedi ei recordio ar gamerâu cylch cyfyng.

Fe wnaeth Mr Jones - o ardal Gorseinon yn Abertawe - bledio'n ddieuog i'r cyhuddiad, gan siarad i gadarnhau ei enw yn unig yn y llys.

Mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau fis Tachwedd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd Mr Jones ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod.

Pynciau cysylltiedig