Team GB eisiau tîm pêl-droed dynion yng Ngemau 2028
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwyr cymdeithas Olympaidd Prydain yn gobeithio anfon tîm pêl-droed dynion i'r Gemau nesaf yn Los Angeles yn 2028.
Roedd yna wrthwynebiad chwyrn gan lawer y tro diwethaf y digwyddodd hynny pan lwyfannodd Llundain y gemau yn 2012.
Pryder y gwrthwynebwyr i'r syniad yw y byddai cystadlu fel un tîm unedig yn tanseilio annibyniaeth timau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yng nghystadlaethau Fifa ac Uefa.
Ond mae prif weithredwr y BOA (British Olympic Association) Andy Anson yn dweud y byddai cael tîm dynion unedig yn Los Angeles "yn wych i bêl-droed".
Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Bellamy yn y garfan yn 2012
Ryan Giggs oedd capten y garfan yn 2012 pan gyrhaeddodd Team GB rownd yr wyth olaf.
Roedd pedwar Cymro arall yn y garfan - Joe Allen, Aaron Ramsey, Neil Taylor a rheolwr presennol Cymru Craig Bellamy - ynghyd â 13 chwaraewr o Loegr.
Yr awgrym ar y pryd oedd mai eithriad ar gyfer Gemau 2012 yn unig oedd y tîm, gan fod y Gemau'n cael eu cynnal yn y DU.
Mae dilynwyr pêl-droed Cymru eisoes wedi mynegi gwrthwynebiad i'r syniad ar gyfer 2028 ar y cyfryngau cymdeithasol, gydag o leiaf un yn apelio ar brif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Neil Mooney, i'w ddiystyru.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban wedi dweud nad ydyn nhw'n cefnogi'r syniad, ond na fydden nhw'n atal unigolion fyddai'n dymuno cymryd rhan.
Fe allai clybiau pêl-droed wrthwynebu'r posibilrwydd o orfod rhyddhau chwaraewyr hefyd.
Bydd Gemau Olympaidd Los Angeles yn dechrau ychydig ddyddiau ar ôl rownd derfynol Euro 2028 ac ychydig wythnosau cyn dechrau'r tymor domestig.
Mae carfan merched Team GB eisoes yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd, ond fe wnaethon nhw fethu â sicrhau lle yng ngemau eleni.
Fe gystadlodd tîm pêl-droed dynion ar ran Prydain ym mhob Gemau Olympaidd rhwng 1948 a 1972.