'Annheg' bod cynllun atal diabetes ddim ar gael i bawb

Dyn yn ymarfer corffFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae diffyg cynllun clir i dalu am ymestyn rhaglen i geisio lleihau'r risg o ddatblygu diabetes - er bod ymchwil yn awgrymu ei fod yn effeithiol, yn ôl elusen.

Mae astudiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai'r rhaglen, sydd wedi ei chynnig i tua 10,000 o bobl, leihau'r risg o ddatblygu diabetes math 2 mewn unigolion sydd â lefelau siwgr yn eu gwaed sy'n uwch na'r arfer, o bron i chwarter.

Ond oni bai fod Llywodraeth Cymru yn clustnodi cyllid penodol -  mae Diabetes UK Cymru yn poeni y bydd mynediad i'r rhaglen yn parhau'n loteri cod post.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "cyllid o amrywiaeth o ffynonellau wedi'i ddefnyddio i ddatblygu ac ymestyn y rhaglen".

Sut mae'r rhaglen ataliol yn gweithio?

Ar hyn o bryd mae'r rhaglen ar gael mewn 35 o'r 60 o glystyrau gofal sylfaenol sydd yng Nghymru, ac yn benodol mewn ardaloedd lle mae yna gyfraddau uwch o ddiabetes math 2.

Mae'r cynllun yn defnyddio prawf gwaed o'r enw prawf HbA1c, sy'n mesur lefelau cyfartalog y glwcos, neu siwgr, yng ngwaed unigolyn dros gyfnod o 2-3 mis.

Mae'r rhai sydd â lefelau rhwng 42-47mmol/mol yn cael eu hystyried yn unigolion â chyflwr cyn-diabetes - mae'r lefelau siwgr yn uwch na'r arfer ond ddim yn ddigon uchel i gael diagnosis diabetes ffurfiol.

Mae'r unigolion yma wedyn yn cael cyfarfod 30 munud gyda gweithiwr iechyd penodol, lle maen nhw'n cael gwybodaeth a chefnogaeth.

Maen nhw'n cael cynnig cyfarfod arall flwyddyn yn ddiweddarach.

Pa mor effeithiol yw'r rhaglen ataliol?

Mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dod i'r casgliad fod y rhaglen yn effeithiol.

Mae'n canfod bod y risg y bydd unigolyn yn mynd ymlaen i fyw gyda lefelau glwcos diabetig yn y gwaed wedi'i leihau 23% ymhlith y rhai a gymrodd ran.

Yn ôl Alisha Davies, pennaeth ymchwil a gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r canfyddiadau'n arwyddocaol.

"Mae'r gwerthusiad yn dangos i ni fod y rhaglen atal diabetes yn effeithiol wrth atal a lleihau cynnydd lefelau glwcos diabetig yn y gwaed.

"Mae'r rhaglen yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at atal diabetes yng Nghymru.

"Bydd parhau i gofnodi'r manteision i gleifion drwy fonitro a gwerthuso cadarn yn ein helpu i ddeall ei effaith barhaus dros amser ar glefyd pwysig y gellir ei atal yng Nghymru."

'Dylai pawb gael yr un gefnogaeth'

Mae Diabetes UK Cymru yn croesawu'r ymchwil, ond mae'r elusen yn poeni nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun pendant i ariannu ac ymestyn y rhaglen.

"Enw'r rhaglen hon yw Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, ond dyw'r enw hwnnw ddim yn gywir ar hyn o bryd," medd Rachel Burr, cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru.

"Mae cymaint o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd sy'n methu cael mynediad i hwn. Mae hynny'n annhegwch.

"Rydym ni am weld pawb yn cael cynnig yr un lefel o gefnogaeth a'r un lefel o ofal. Mae cyfraddau diabetes yn argyfwng ar hyn o bryd ac yn parhau i godi.

"Mae'r gwasanaeth iechyd yn mynd i orfod talu am effeithiau yr argyfwng diabetes a gwell gwneud hynny yn gynnar cyn bo rhywun yn datblygu'r cyflwr yn hytrach nag yn ddiweddarach pan fo rhywun yn byw gydag ef."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gwybod bod cymorth ataliol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran lleihau'r risg y bydd pobl â chyflwr cyn-diabetes yn datblygu diabetes math 2, ac mae cyllid o amrywiaeth o ffynonellau wedi'i ddefnyddio i ddatblygu ac ymestyn y rhaglen.

"Er mwyn sicrhau bod mwy o bobl ledled Cymru yn gallu elwa ar gymorth cynnar, mae cyllid hefyd wedi'i ddyrannu eleni i wneud cynnydd pellach wrth ymgorffori'r ddarpariaeth mewn gweithgarwch craidd a'i chyflwyno ledled Cymru."

David WeeksFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Weeks wybod bod lefel siwgr ei waed yn uchel ar ôl cael prawf am fater arall

Un sydd wedi elwa o'r cynllun yw David Weeks, 67, sy'n byw yn ardal bwrdd iechyd Bae Abertawe.

Fe gafodd wybod bod ganddo risg uwch o ddiabetes ar ôl ymweld â'i feddyg teulu am broblem wahanol.

Ar ôl derbyn canlyniad ei brawf gwaed, cyfeiriwyd David am ymgynghoriad â gweithiwr cymorth dietegol.

"Fe wnaethon nhw fy anfon am apwyntiad y llynedd gyda'r tîm atal diabetes ym Mhenclawdd.

"Fe wnaethon ni siarad am fy neiet ac ymarfer corff ac es i yn ôl am apwyntiad dilynol eleni.

"Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydw i wedi colli dwy stôn a phwys.

"Rydw i wedi rhoi'r gorau i fwyta cymaint o fisgedi a chacennau ac rydw i nawr yn mynd i'r gampfa bob dydd."

Mae gan tua 8% o oedolion yng Nghymru ddiabetes - y gyfradd uchaf o unrhyw wlad yn y DU.

Os fydd y cyfraddau'n parhau i gynyddu, yr amcangyfrif yw y gallai hynny gynyddu ymhen tua 10 mlynedd i un o bob 11 oedolyn yng Nghymru - 260,000-300,000 o bobl.

Mae'r gwasanaeth iechyd yn gwario mwy na £500m y flwyddyn - tua 10% o'i chyllideb - yn rheoli diabetes a'r cymhlethdodau sy'n deillio o hynny.

Ni all pobl â diabetes gynhyrchu inswlin, sef hormon sy'n rheoli lefelau siwgr yn y gwaed, yn y ffordd arferol.

Ni all cleifion â diabetes math 1 gynhyrchu unrhyw inswlin o gwbl. Mae pobl â diabetes math 2 naill ai ddim yn cynhyrchu digon o inswlin neu nid yw'r inswlin y maen nhw'n ei gynhyrchu yn gweithio'n gywir.

Diabetes math 2 yw'r mwyaf cyffredin, gan fod yn gyfrifol am 90% o achosion.

Er y gall rhai pobl â diabetes math 2 leihau lefel y siwgr yn y gwaed i lefel ddiogel, drwy broses y cyfeirir ati fel lleddfu diabetes, nid yw'r newid hwn bob amser yn barhaol.

Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn byw gyda'r cyflwr am weddill eu hoes.

Yn y tymor hir, gall diabetes arwain at nifer o gymhlethdodau iechyd difrifol, gan gynnwys trawiad ar y galon, strôc a phroblemau â'r traed neu'r llygaid

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.