Cynllun i symud cyrsiau prifysgol o Lambed i Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi dechrau trafod cynllun i symud cyrsiau o'u campws yn Llambed i'w safle yng Nghaerfyrddin, gan ddweud "nad yw'r sefyllfa yn gynaliadwy".
Dywedodd llefarydd bod "cynnig i symud ein darpariaeth Dyniaethau a addysgir ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol, i’n campws yng Nghaerfyrddin o’r flwyddyn academaidd newydd yn dechrau ym mis Medi 2025".
"Er gwaethaf ystod o syniadau arloesol i ddenu mwy o fyfyrwyr i’n campws yn Llambed ni chawsant eu gwireddu, ac mae’r campws wedi gweld dirywiad cynyddol yn nifer y myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu wyneb-yn-wyneb," meddai.
Ychwanegodd llefarydd bod "yn rhaid inni weithredu".
Dywedodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake y byddai symud cyrsiau i Gaerfyrddin "yn ergyd drom i'r gymuned academaidd a'r gymuned leol" yn Llambed ac y bydd yn galw cyfarfod brys i drafod y cynlluniau.
Clywodd Cymru Fyw bryderon yn 2019 bod lleihad wedi bod yn nifer y staff ac adrannau ar y campws yn Llambed.
Dywedodd un aelod o staff bryd hynny "nad ydynt [y myfyrwyr] yn gweld dyfodol i'r campws fel mae pethau".
Dywedodd Prifysgol Y Drindod Dewi Sant ar y pryd eu bod wedi buddsoddi yn y campws yn Llanbedr Pont Steffan yn y blynyddoedd diweddar, a bod cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
Wrth gadarnhau'r cynnig i symud y cyrsiau o Lambed, dywedodd llefarydd bod nifer y myfyrwyr sydd gan y brifysgol "yn gyffredinol yn tyfu", ond "nid ydynt wedi’u dosbarthu’n gymesur ar draws ein campysau gwahanol".
Ychwanegodd llefarydd mai bwriad y cynnig i symud cyrsiau i Gaerfyrddin yw sicrhau "parhad yr addysg a ddarperir i’n holl fyfyrwyr gyda’r bwriad o wella profiad y myfyrwyr yn gyffredinol a grymuso cyflwyniad ac ansawdd ein rhaglenni".
Maen nhw'n pwysleisio y byddai hynny'n "cynorthwyo ein rhaglenni yn y Dyniaethau i ddatblygu ymhellach a ffynnu fel disgyblaeth academaidd".
“Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gadw prif ystâd y campws yn Llambed a chanfod dulliau amgen o gynnig gweithgareddau sy’n ymwneud ag addysg a fydd yn rhoi bywyd newydd a dyfodol mwy diogel i’r campws," meddai'r llefarydd.
“Bydd ein trafodaethau yn cymryd i ystyriaeth sut i wasanaethu lles gorau ein myfyrwyr, staff a’r gymuned yn Llambed tra hefyd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy’r sefydliad."
Wrth ymateb i'r cynlluniau dywedodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake: "Llambed yw man geni addysg yng Nghymru ac ers dros 200 mlynedd, y brifysgol yw conglfaen y dref."
Dywedodd y byddai symud cyrsiau i Gaerfyrddin "yn ergyd drom i'r gymuned academaidd a'r gymuned leol" yn Llambed.
Tra'n cydnabod fod pwysau ariannol sylweddol ar sefydliadau addysg uwch y DU, dywedodd bod "dyletswydd ar Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i egluro sut maen nhw'n bwriadu parhau ag addysg uwch yn Llambed".
"Rydw i'n annog y brifysgol i ystyried effaith y cynlluniau yma ac fe fydda i'n galw am gyfarfod brys gydag arweinwyr y brifysgol ac arweinwyr lleol i sicrhau dyfodol addysg uwch yn Llambed."
Sefydliad academaidd hynaf Cymru
Yn ei anterth yn y 1990au roedd 1,500 o israddedigion yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae prifysgol wedi bod yn y dref ers 1822, gan olygu mai hwn yw'r sefydliad academaidd hynaf yng Nghymru, ac un o'r rhai hynaf yn y DU.
Yn wreiddiol fel Coleg Dewi Sant, dyma'r sefydliad hynaf yng Nghymru i ddyfarnu graddau, a'r pedwerydd hynaf yng Nghymru a Lloegr, ar ôl Rhydychen, Caergrawnt a Durham.
Yn 1971 daeth y coleg yn aelod ffederal o Brifysgol Cymru.
Yn 2008, dechreuodd y broses o sefydlu'r coleg yn rhan o brifysgol Y Drindod Dewi Sant, sydd â phresenoldeb yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Llanbed.
Mae sefydliad wedi arbenigo mewn nifer o bynciau gan gynnwys Diwinyddiaeth, y Clasuron, Archeoleg a Hanes yr Henfyd.