Pryder staff a myfyrwyr am ddyfodol campws Llanbed
- Cyhoeddwyd
Mae pryder am ddyfodol sefydliad addysgol hynaf Cymru, gyda myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi eu "bradychu" gan reolwyr ac nad ydynt yn cael "gwerth am arian".
Oherwydd ystyriaethau ariannol mae campws Llanbedr Pont Steffan o Brifysgol y Drindod Dewi Sant wedi gweld lleihad yn nifer y staff ac adrannau dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae 360 o fyfyrwyr yn astudio yno, ond mae un aelod o staff wedi dweud wrth BBC Cymru "nad ydynt [y myfyrwyr] yn gweld dyfodol i'r campws fel mae pethau".
Dywed Prifysgol y Drindod Dewi Sant eu bod wedi buddsoddi yn y campws yn Llanbedr Pont Steffan yn y blynyddoedd diweddar, a bod cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Yn ôl rhai myfyrwyr mae pryderon yn cael eu hanwybyddu ac maen nhw'n poeni am y dyfodol.
Dywedodd myfyrwyr wrth BBC Cymru eu bod wedi sôn wrth uwch reolwyr ond heb gael unrhyw atebion.
"Mae'n rhwystredig, mae'r darlithoedd yn wych ac mae is-reolwyr yn gwneud eu gorau, ond dyw'r uwch reolwyr ddim yn rhoi sylw i ni, mae'n eithaf sarhaus," meddai Alexander Naylor, myfyriwr hanes sydd newydd gwblhau ei ail flwyddyn.
"O ystyried bod ffïoedd wedi treblu ers i mi wneud cais i ddod i'r brifysgol, dydy o ddim yn teimlo ein bod yn cael gwerth am arian.
"Mae yna bosibilrwydd mewn 10 neu 15 mlynedd bydd yna neb ar ôl yma."
Dywedodd Kirsty Parkes, myfyrwraig archeoleg yn ei blwyddyn gyntaf, ei bod yn adnabod nifer o fyfyrwyr sydd "wedi rhoi'r gorau neu yn ystyried rhoi'r gorau iddi, neu am symud i brifysgolion eraill".
Yn ei anterth yn y 1990au roedd 1,500 o israddedigion yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae prifysgol wedi bod yn y dref ers 1822, gan olygu mai hwn yw'r sefydliad academaidd hynaf yng Nghymru, ac un o'r rhai hynaf yn y DU.
Yn wreiddiol fel Coleg Dewi Sant, dyma'r sefydliad hynaf yng Nghymru i ddyfarnu graddau, a'r pedwerydd hynaf yng Nghymru a Lloegr, ar ôl Rhydychen, Caergrawnt a Durham.
Yn 1971 daeth y coleg yn aelod ffederal o Brifysgol Cymru. Yn 2008 dechreuodd y broses o sefydlu'r coleg yn rhan o brifysgol Y Drindod Dewi Sant, sydd â phresenoldeb yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Llanbed.
Mae sefydliad wedi arbenigo mewn nifer o bynciau gan gynnwys Diwinyddiaeth, y Clasuron, Archeoleg a Hanes yr henfyd.
Ond tra bod campysau Caerfyrddin ac Abertawe wedi gweld buddsoddiad a datblygiad, mae'r stori yn wahanol yn Llanbed - lle mae adrannau a niferoedd staff wedi eu torri.
Yn sgil cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn bwriadu torri 100 o swyddi mewn ymdrech i arbed £6.5m, mae staff yn Llanbed yn fwyfwy pryderus am y dyfodol.
Dywedodd un aelod o staff, oedd ddim am roi ei enw: "Rwy'n poeni'n fawr, dwi ddim yn gweld dyfodol i Lanbedr ar y funud, mae nifer o bynciau yn perfformio'n dda pan mae myfyrwyr yn llenwi arolygon, neu wrth ystyried tablau perfformiad, ond mae hyn o ganlyniad i fuddsoddiad y staff.
"Mae'r staff wedi gwneud cymaint i ddarparu addysg o safon, ond mae morâl yn isel - mae nifer wedi gadael neu wedi gorfod gadael.
"Mae hon yn brifysgol draddodiadol - mae dau ganmlwyddiant yn cael ei ddathlu yn 2022 ond rwy'n credu bod nifer o fy nghyd-aelodau staff a myfyrwyr yn amheus a fydd yna brifysgol yma ymhen tair blynedd."
'Ymroi yn llwyr i'r tri champws'
Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-gangellor Cysylltiol Prifysgol y Drindod Dewi Sant: "Mae'r brifysgol wedi ymroi yn llwyr i'r tri champws yn Llanbedr Pont Steffan, Abertawe a Chaerfyrddin a byddwn nawr yn rhoi ffocws ar gyfoethogi a datblygu'r portffolio academaidd i sicrhau fod campws Llanbedr Pont Steffan yn diwallu anghenion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
"10 mlynedd yn ôl roedd y campws ar fin cau. Heddiw mae'n parhau yn sefydliad addysgiadol dichonadwy."
Dywed rhai busnesau yn y dref bod y campws yn llai prysur dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Stella Teasdale, perchennog caffi a deli Mulberry Bush: "Mae'n bechod i'r dref, roeddwn yn arfer gweld nifer fawr o bobl ar ddechrau pob blwydd academaidd, ond mae llai o bobl erbyn hyn."
Yr un yw barn Nicola Doyle, perchennog caffi Artisans: "Ni'n dibynnu lot ar fyfyrwyr, eu teuluoedd a darlithwyr sy'n dod i mewn i'r dre' ac mae hynny yn rhywbeth hanesyddol yn Llambed.
"S'dim dowt 'ma numbers wedi mynd lawr yn y ddwy neu dair blynedd diwethaf."
Cymuned yn pryderu
Cafodd y mater hefyd ei drafod yn ddiweddar gan gyngor tref Llanbed, a dywedodd y Cynghorydd Hag Harris ei fod yn "optimistaidd" ond bod "tystiolaeth llygaid fy hunan yn awgrymu rhywbeth gwahanol".
"Fe ddywedodd Deon y coleg eu bod am weld gwelliannau yn yr academi Sinoleg, datblygu'r fagloriaeth ryngwladol a datblygu addysg bellach gan gysylltu gyda Choleg Sir Gâr," meddai.
"Mae nifer y myfyrwyr yn amlwg yn gostwng, ac mae adrannau cyfan wedi eu symud felly mae'r gymuned leol yn hynod bryderus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019