Cynyddu biliau dŵr i achosi 'problemau mawr' i rai
- Cyhoeddwyd
Fe fydd biliau dŵr yn cynyddu'n sylweddol dros y pum mlynedd nesaf yn dilyn penderfyniad gan y rheoleiddiwr, Ofwat.
Fe fydd cwsmeriaid Dŵr Cymru yn gweld y cynnydd uchaf, gyda biliau cyfartalog yn codi o £455 i £645 y flwyddyn erbyn 2029/2030 - sydd yn gynnydd o £190 neu 42%.
I ddefnyddwyr Hafren Dyfrdwy, bydd biliau'n codi o £396 y flwyddyn ar gyfartaledd i £557 erbyn 2029/2030 - sy'n gynnydd o £161, neu 42%.
Ar Dros Frecwast dywedodd Rhodri Williams o'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, bod "tanfuddsoddi hanesyddol" wedi bod i seilwaith y cwmnïau dŵr, ond y gallai'r cynnydd i filiau achosi "problemau mawr" i rai.