'Dwi'n edrych ar ddelweddau anweddus ar-lein er mwyn eu dileu'

Ffôn clyfarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tudalennau a gafodd eu dileu dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys mwy o ddelweddau a gafodd eu cynhyrchu gan AI nag erioed o'r blaen

  • Cyhoeddwyd

Mae Mabel yn nain gariadus ac yn mwynhau treulio amser gyda'i hwyresau - ond mae natur ei gwaith yn "erchyll".

Fel rhan o'i swydd, mae'n rhaid iddi wylio rhai o'r delweddau cam-drin plant fwyaf "ffiaidd" sydd ar y rhyngrwyd.

Mae hi'n gweithio i un o'r ychydig sefydliadau sydd â thrwydded i chwilio'r we am gynnwys anweddus i helpu'r heddlu a chwmnïau technoleg i'w dileu.

Y llynedd fe wnaeth elusen yr Internet Watch Foundation (IWF) helpu i dynnu i lawr bron i 300,000 o dudalennau.

Cadw wyrion ac wyresau yn saff

"Mae'r cynnwys yn erchyll, ni ddylai byth fod wedi ei greu yn y lle cyntaf," meddai Mabel, nid ei henw iawn.

"Dydych chi byth yn dod yn immune i'r holl beth, oherwydd ar ddiwedd y dydd mae'r rhain i gyd yn ddioddefwyr ac yn blant - mae'n ffiaidd."

Dywedodd Mabel mai ei theulu sy'n ei hysgogi'n bennaf ar gyfer cyflawni ei rôl.

Mae'r cyn-heddwas yn dweud ei bod yn hoffi rhwystro gangiau troseddol sy'n rhannu lluniau a delweddau cam-drin er mwyn gwneud arian.

Mae dadansoddwyr y sefydliad yn aros yn anhysbys fel eu bod yn teimlo'n ddiogel oddi wrth y rhai sy'n gwrthwynebu eu gwaith, fel gangiau troseddol.

Dynes ar gyfrifiadur laptop

"Does 'na ddim llawer o swyddi lle rydych chi'n mynd i'r gwaith yn y bore ac yn gwneud gwaith da drwy'r dydd, ac hefyd yn gwylltio pobl wirioneddol ddrwg, felly dwi'n cael y gorau o'r ddau fyd," meddai Mabel.

"Pan fyddaf yn dileu delwedd, rwy'n atal y bobl ddrwg rhag cael mynediad i'r delweddau rheiny.

"Mae gen i blant ac wyrion ac wyresau a dwi eisiau gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel iddyn nhw.

"Ar raddfa fwy, rydan ni'n cydweithio ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith ar draws y byd fel y gallan nhw ffurfio ymchwiliad ac efallai rhoi'r gangiau o dan glo."

Creu delweddau drwy AI

Mae IWF yn un o ond tri sefydliad yn y byd sydd â thrwydded i chwilio am gynnwys cam-drin plant ar-lein.

Y llynedd fe wnaethon nhw helpu i ddileu 291,270 o dudalennau gwe a allai gynnwys miloedd o ddelweddau a fideos.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod wedi helpu i ddileu bron i bum gwaith yn fwy o ddelweddau cam-drin plant sy'n cael eu cynhyrchu gan AI eleni o'i gymharu â'r llynedd, sydd wedi codi i 245 o gymharu â 51 yn 2023.

Fis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU bedair deddf newydd i fynd i'r afael â delweddau sy'n cael eu cynhyrchu drwy AI.

Nid yw'r cynnwys yn hawdd i Tamsin McNally a'i thîm o 30 ei weld, ond mae hi'n gwybod bod eu gwaith yn cael effaith cadarnhaol er mwyn amddiffyn plant.

"Rydym yn gwneud gwahaniaeth a dyna pam dwi yma," meddai Tasmin, arweinydd y tîm.

Tasmin McNally
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tasmin McNally yn arwain y tîm

"Fore Llun wnes i gerdded i mewn i'r hotline a roedden wedi derbyn dros 2,000 o adroddiadau gan aelodau'r cyhoedd yn dweud eu bod wedi dod ar draws y mathau hyn o ddelweddau.

"Hoffwn i pe na bai fy swydd yn bodoli ond cyn belled â bod llefydd o'r fath ar-lein bydd angen swyddi fel fy un i, yn anffodus.

"Pan dwi'n dweud wrth bobl beth dwi'n ei wneud, yn aml iawn dyw pobl ddim yn gallu credu bod y swydd yma'n bodoli yn y lle cyntaf.

"Yna maen nhw'n dweud, 'pam fyddet ti eisiau gwneud hynny?!'"

Lles y staff

Mae gan lawer o gymedrolwyr cwmnïau technoleg hawliadau cyfreithiol parhaus gan fod sawl un yn honni bod y gwaith wedi dinistrio eu hiechyd meddwl.

Ond mae'r IWF yn dweud bod eu gofal staff yn un "safon aur".

Mae dadansoddwyr yn yr elusen yn derbyn cwnsela misol gorfodol, cyfarfodydd tîm wythnosol â chymorth lles rheolaidd.

"Mae yna bethau ffurfiol, ond hefyd anffurfiol – mae ganddon ni fwrdd pŵl, cornel 'connect four', jig-so enfawr – dwi'n berson jig-so mawr, lle allwn ni gymryd hoe os rydyn ni angen," ychwanegodd Mabel, sy'n hannu o'r gogledd yn wreiddiol.

"Mae'r holl bethau yma gyda'i gilydd yn helpu i'n cadw ni yn gweithio yma."

Prif adeilad yr Internet Watch Foundation
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan yr IWF ganllawiau llym sy'n sicrhau nad ydy ffonau personol yn cael eu caniatáu yn y swyddfa neu nad yw unrhyw waith, gan gynnwys e-byst, yn cael eu cymryd allan o'r swyddfa

Er gwaethaf gwneud cais i weithio yno, nid oedd Manon - eto, nid ei henw iawn - yn siŵr a oedd yn gallu gwneud y swydd.

"Dydw i ddim hyd yn oed yn hoffi gwylio ffilmiau arswyd, felly roeddwn i'n gwbl ansicr a fyddwn i'n gallu gwneud y gwaith," meddai Manon, sydd yn ei hugeiniau cynnar ac o dde Cymru.

"Ond mae'r gefnogaeth rydych yn ei gael mor ddwys ac eang, mae'n galonogol.

"Dim ots sut rydych yn edrych arno, rydych chi'n gwneud y rhyngrwyd yn lle gwell a dwi ddim yn meddwl bod yna lawer o swyddi lle gallwch chi wneud hynny bob dydd."

Pynciau cysylltiedig