'Angen gwell data' am y Gymraeg i ddeall gwir sefyllfa'r iaith
- Cyhoeddwyd
Mae angen casglu data o ansawdd ar ddefnydd o'r iaith Gymraeg yn fwy rheolaidd, ac mewn ffordd fwy systematig, yn ôl arbenigwyr.
Dyna un o argymhellion adroddiad newydd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae nifer o fylchau yn yr ystadegau presennol am y Gymraeg medd yr ymchwilwyr, sy'n dweud bod angen datblygu dulliau newydd o gasglu data os am gael darlun cynhwysfawr o gyflwr yr iaith Gymraeg a’r defnydd ohoni.
Ymatebodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn, bod "cyfle i feddwl o’r newydd am ba ddata sydd ei angen arnom ni a sut mae manteisio ar botensial technoleg i roi data amserol, awdurdodol ac arloesol i ni am y Gymraeg a’i siaradwyr".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y "byddwn yn edrych ar argymhellion yr adroddiad wrth i ni gynllunio ar gyfer ymchwil ac ystadegau Cymraeg yn y dyfodol."
'Dealltwriaeth mwy trylwyr'
Mae'r adroddiad gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn deillio o brosiect ymchwil a ariannwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Y bwriad yw archwilio ffyrdd o ddatblygu dulliau gwahanol o ddeall hyfywedd ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol fel y Gymraeg.
Dywedodd Dr Elin Royles o’r tîm ymchwil, “er mwyn cael sail gadarn ar gyfer cynllunio polisïau i hybu’r Gymraeg, mae angen dealltwriaeth mwy trylwyr o sefyllfa’r Gymraeg a chryfhau’r pwyslais ar gasglu data ar ddefnydd iaith".
“Ar hyn o bryd, y cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell ar ddata ieithyddol o ran nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg neu sydd â sgiliau Cymraeg eraill neu mewn ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol eraill y Deyrnas Gyfunol.
"Ond mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ystyried newidiadau i’r trefniadau ac mae awgrym na fydd y cyfrifiad yn cael ei gynnal yn y dyfodol.
"Mae hyn yn gyfle amserol felly i werthuso pa ddata sy’n allweddol er mwyn deall sefyllfa’r Gymraeg ac mae’n hollbwysig nad yw unrhyw newid yn gwanhau ein dealltwriaeth am sefyllfa’r Gymraeg.”
Nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2001, 2011 a 2021 oedd 582,400, 562,000 a 538,300 yn y drefn honno.
Mae aelod arall o’r tîm ymchwil, Dr Huw Lewis, yn cydnabod pwysigrwydd y cyfrifiad wrth gasglu data, ond dywedodd bod "angen cofio mai unwaith pob degawd y caiff ei gynnal ac nad yw’r data yn dweud dim wrthym ynglŷn â ble a pha mor aml mae pobl yn defnyddio’r iaith o dydd i ddydd".
“Mae angen sicrhau felly bod data yn cael ei gasglu’n fwy rheolaidd mewn perthynas â’r Gymraeg a rhoi llawer mwy o bwyslais ar geisio mesur y defnydd o’r iaith er mwyn datblygu darlun mwy crwn o’i hyfywedd, fydd yn helpu i roi polisïau ac ymatebion priodol yn eu lle.
"Dylid hefyd sicrhau bod y data yn cael ei rannu ac ar gael yn gyhoeddus i wahanol bartneriaid.”
- Cyhoeddwyd9 Hydref
- Cyhoeddwyd15 Hydref
- Cyhoeddwyd20 Hydref
Un arall o argymhellion yr adroddiad yw bod llunwyr polisi yng Nghymru yn dilyn esiampl Gwlad y Basg a Chatalwnia, sy'n defnyddio System Dangosyddion Ieithyddol cynhwysfawr fel rhan o’u hymdrechion i adfywio’u hieithoedd.
Esboniodd yr Athro Rhys Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol, oedd hefyd yn rhan o’r astudiaeth: “Yng Nghatalwnia er enghraifft, mae’r system wedi tynnu sylw at brinder meddygon sy’n siarad Catalaneg gan arwain at ymdrechion i gefnogi doctoriaid i ddysgu’r Gatalaneg.
"Mae hefyd wedi amlygu sefyllfa pobl ifanc a’u defnydd iaith ar y cyfryngau amlblatffform gan arwain at ddatblygu sianel ar gyfer rhai yn eu harddegau.
"Byddai system o’r fath yn gaffaeliaid mawr i gynllunio ieithyddol yng Nghymru. Mae eu defnydd o ddulliau fel Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i fapio hyfywedd ieithoedd lleiafrifol hefyd yn arwyddocaol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae mesur defnydd a gallu'r Gymraeg yn allweddol i fonitro cynnydd yn erbyn ein targedau o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu'r defnydd dyddiol o'n hiaith.
"Rydym yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad gan Brifysgol Aberystwyth a byddwn yn edrych ar argymhellion yr adroddiad wrth i ni gynllunio ar gyfer ymchwil ac ystadegau Cymraeg yn y dyfodol."