Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol ar yr A44

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A44 ddydd Gwener, 2 Mai.
Fe darodd fan Ford Transit a beic modur Triumph yn erbyn ei gilydd ger Sweet Lamb am tua 15:50.
Bu farw gyrrwr y beic modur o ganlyniad i'r gwrthdrawiad. Cafodd y ffordd ei chau am weddill y prynhawn a'r nos, gan ailagor am 01:00 y bore canlynol.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un allai fod o gymorth i'r ymchwiliad, gan gynnwys pobl oedd yn defnyddio'r ffordd ar y pryd ac sydd â lluniau 'dashcam' i gysylltu gyda nhw.
Gall pobl ffonio'r heddlu ar 101 neu ar-lein gan nodi'r cyfeirnod 290 ar 2 Mai, neu fe all pobl ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.