Siarc prin wedi'i ffilmio ym Mae Ceredigion

MaelgiFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y maelgi ei ffilmio ar wely'r môr ym Mae Ceredigion

  • Cyhoeddwyd

Mae un o'r siarcod mwyaf prin yn y byd wedi cael ei ddal ar gamera ym Mae Ceredigion am y tro cyntaf ers pedair blynedd.

Dywedodd Sarah Perry o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ei bod hi "ar ben fy nigon" wedi'r "digwyddiad prin a chyffrous" gyda'r maelgi (angel shark).

Cafodd ei ffilmio oddi ar arfordir Ceredigion gyda chamera tanddwr, sy'n cael ei ddefnyddio i astudio dolffiniaid trwynbwl (bottlenose).

Mae maelgwn yn byw a hela ar wely'r môr, ac yn cael eu hystyried "mewn perygl difrifol" o ddiflannu'n llwyr.

Roedden nhw'n arfer bod yn gyffredin yn y moroedd o amgylch Ewrop, ond mae eu niferoedd wedi prinhau oherwydd bygythiadau fel difrod i'w cynefinoedd a chael eu dal yn anfwriadol gan bysgotwyr.

Cafodd maelgi ifanc ei ffilmio ym Mae Ceredigion ym Medi 2021.

Pynciau cysylltiedig