Lansio fersiwn Gymraeg o gartŵn 'anferth' yng Nghaerdydd

BlueyFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaglen Blŵi ymlaen ddwywaith yr wythnos yn dechrau o 30 Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd

Bu'r cymeriad cartŵn poblogaidd o Awstralia, Bluey, ym Maes Awyr Caerdydd ddydd Gwener, i lansio fersiwn Gymraeg o'r gyfres i blant.

Cwmni cynhyrchu Tinopolis fydd yn gyfrifol am ail-leisio'r rhaglen deledu a bydd 'Blŵi' yn dechrau cael ei ddangos ar S4C o ddydd Mawrth 30 Rhagfyr.

Mae'r gyfres am gi hoffus, glas, sy'n byw gyda'i mam, Chilli, ei thad, Bandit, a'i chwaer fach, Bingo.

Dywedodd Sioned Geraint, comisiynydd cynnwys S4C i blant a dysgwyr, fod y cyhoeddiad yn un "cyffrous" i wylwyr ifanc.

'Cyffrous iawn'

Yn siarad ar y Post Prynhawn nos Wener, dywedodd Sioned Geraint fod pawb wedi cael diwrnod "prysur iawn" yn y lansiad.

"O'dd o'n ddiwrnod cyffrous iawn, achos allen ni ddim wedi gallu gofyn am ddiwrnod gwell. O'dd yr awyr yn las, o'dd yr awyren yn las, ma' Blŵi yn las!

"O'dd o mor gyffrous bod Blŵi yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd a hynny i groeso gan ddosbarth mawr o blant o'dd wedi cyffroi yn llwyr o Ysgol Sant Baruc yn y Barri.

"Oedden nhw just wrth eu boddau bod Bluey wedi cyrraedd Cymru," meddai Ms Geraint.

Blŵi gyda Griff a DafFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Blŵi gyda Griff a Daf o raglen Cyw ym Maes Awyr Caerdydd ddydd Gwener

Pwysleisiodd Sioned Geraint fod Bluey yn gymeriad anferth ac yn "gymeriad rhyngwladol enwog - siŵr o fod y cymeriad plant mwyaf enwog sydd 'na ar y funud".

"Oedden ni'n awyddus iawn i'n gwylwyr ni fedru mwynhau y gyfres trwy gyfrwng y Gymraeg ac mi fuon ni'n gweithio yn galed iawn i gael hynny i ddigwydd."

Dywedodd mai un o'r pethau hyfryd am y lansiad oedd bod y plant wedi dweud wrth Blŵi, a'i chwaer Bingo, eu bod "mor falch" bod y ddwy'n dysgu Cymraeg.

Mae yno lyfr Bluey eisoes wedi cael ei gyfieithu yn Gymraeg gan Dr Hanna Hopwood ac mae hwnnw wedi profi'n llwyddiant.

Roedd S4C wedi gobeithio i'r llyfrau a'r gyfres deledu Cymraeg gyd-redeg, meddai Ms Geraint, ond bod trio cael hawliau i raglenni rhyngwladol enwog ddim wastad yn hawdd a bod y broses wedi "cymryd yn hirach nag oedden ni wedi gobeithio".

Ychwanegodd Ms Geraint y bydd y rhaglen ymlaen ddwywaith yr wythnos am wyth wythnos ar ddechrau'r flwyddyn.

'Straeon chwareus ac adegau emosiynol'

Mae'r rhaglen yn ffefryn gyda phlant ac oedolion ac yn adnabyddus am ei doniolwch, ond mae hefyd yn cyffwrdd ar bynciau dyfnach fel galar, priodas ac anffrwythlondeb.

Dywedodd Cecilia Persson, rheolwr gyfarwyddwr Plant a Theulu yn BBC Studios, eu bod wrth eu boddau bod Bluey/Blŵi wedi ymuno â theulu S4C.

"Mae straeon chwareus ac adegau emosiynol y sioe yn cysylltu â theuluoedd ym mhob man ac mae'n wych bod gwylwyr yng Nghymru bellach yn gallu mwynhau Bluey yn eu hiaith eu hunain."

Ers cael ei dangos gyntaf yn Awstralia yn 2018, mae Bluey wedi ennill miliynau o gefnogwyr ledled y byd ac mae bellach yn un o'r cyfresi teledu, sydd wedi'i animeiddio, sy'n cael ei gwylio fwyaf yn y byd.

Mae wedi cael ei darlledu mewn dros 140 o wledydd ac mae ffilm ar ei ffordd yn 2027 hefyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.