Cael gafael ar steroidau 'mor hawdd' a ddim yn 'tabŵ' erbyn hyn

Disgrifiad,

Mae Mark Humphreys yn un o ddau gorfflunydd proffesiynol yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog campfa a chorflunydd o'r gogledd yn dweud nad ydy ffigyrau newydd am steroidau anabolig yn ei synnu ac nad ydy'r pwnc bellach yn "tabŵ".

Mae gwaith ymchwil newydd yn dangos fod 14% o ddynion Cymru wedi neu yn cymryd steroidau anabolig.

Mae Mark Humphreys, sy'n un o ddau gorfflunydd (bodybuilder) proffesiynol yng ngogledd Cymru, yn agored am y ffaith ei fod wedi cymryd rhai yn y gorffennol.

"Rŵan newch chi ddod i'r gym a clywed dau hogyn ifanc yn siarad hefo'i gilydd reit o flaen pawb arall am be maen nhw'n gymyd," meddai.

Ydy steroidau yn gyfreithlon?

Yn wreiddiol o Ynys Môn a bellach yn byw ym Methesda, mae Mark yn rhedeg campfa ei hun ym Mangor ac wedi mwynhau llwyddiant yn y gamp.

Dywedodd ei fod wedi cymryd steroidau ei hun yn y gorffennol, ond fod nifer y bobl sy'n eu defnyddio erbyn hyn yn ddychrynllyd.

"Dim jyst pobl sy'n cystadlu sy'n gwneud o ddim mwy, mae'n bobl mewn bob mathau o jobs a cefndir," meddai. "Mae o'n shocking."

Mae steroidau anabolig yn fersiynau synthetig o'r hormon testosteron, gyda amcangyfrifon diweddar yn dangos bod tua hanner miliwn o ddynion rhwng 15 a 64 oed yn y DU wedi eu defnyddio.

Fel cyffur Dosbarth C, dydy hi ddim yn anghyfreithlon i fod yn eu meddiant at ddefnydd personol, ond mae'n anghyfreithlon i'w cyflenwi heb bresgripsiwn.

Mae eu defnydd yn y rhan fwyaf o chwaraeon wedi ei wahardd, a gallai eu cynhyrchu a'u gwerthu arwain at hyd at 14 mlynedd o garchar.

Mark Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Humphreys yn cyfaddef ei fod wedi cymryd steroidau yn y gorffennol

Yn ôl Mark, mae hi "mor hawdd cael gafael" ar steroidau erbyn hyn.

"O athrawon, heddlu, doctoriaid, buildars, a phobl bysat byth yn meddwl hefyd," meddai.

"Dydi pobl ddim yn cymyd i fewn sut effaith mae'n gael ar iechyd meddyliol i ddechra', mae hynna'n rhywbeth mawr. Mae o'n gallu chwarae hefo'ch pen."

Mae'n dweud ei fod yn gwybod am bobl sydd wedi dioddef yn gorfforol oherwydd defnydd steroidau hefyd.

"Un boi dwi'n nabod oedd o wedi mynd i'w waith a fyny scaffold, a dechrau'r p'nawn wedi collapsio a disgyn off top scaffold am fod y stwff wedi mynd i lefydd wrong yn y corff," meddai.

"Boi arall oedd wedi rhoi injection i'w hun yn ei ben ôl a wedi hitio blood vessel a wedi pistyllu gwaed dros y toiled.. oedd o wedi panicio'n lân."

'Cyrff ar gyfer Instagram'

Mae'r sgil effeithiau yn amrywio, ond gallan nhw gynnwys:

  • Problemau gyda'r ymennydd, y galon, yr iau a hormonau;

  • Moelni mewn dynion, hypergonadiaeth (ceilliau yn crebachu), anffrwythlondeb ac acne;

  • Materion iechyd meddwl;

  • Risg o boen ar ôl pigiad a haint os nad yw'n cael ei chwistrellu'n gywir;

  • Risg o firysau yn y gwaed gan gynnwys hepatitis C a HIV.

Mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn dangos bod 60% o ddefnydd cyfnewidfeydd nodwyddau yng Nghymru gan ddefnyddwyr steroidau.

Dr Chris Saville
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Chris Saville fod y defnydd yn uwch yng nghymoedd y de

Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ei rannu gyda'r BBC, yn dangos fod 14% o ddynion Cymru wedi cymryd, neu wrthi'n cymryd steroidau.

Y prif resymau a gafodd eu rhoi oedd edrychiad a pherfformiad chwaraeon, ond roedd patrymau daearyddol hefyd.

Dywedodd Dr Chris Saville o Brifysgol Bangor: "Mae lot mwy o bobl yn defnyddio nhw, pobl sydd ddim yn chwarae chwaraeon o gwbl neu'n sicr ddim o lefel uwch fel hyn.

"Mae lot o bobl eisiau edrych yn dda... corff photogenic ar gyfer Instagram.

"Oedden ni'n meddwl ella bod canran uwch o ddefnydd steroidau anabolig yn y cymoedd yn ne Cymru ac ardaloedd hefo hanes o mwyngloddio.

"Wnaethon ni ffendio, oes, mae canran uwch yma o'i gymharu hefo rhannau eraill o Gymru."

Dr Dyfrig ap Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Dyfrig ap Dafydd fod defnyddio steroidau yn aml yn gallu arwain at ddefnyddio cyffuriau eraill hefyd

Dywedodd Dr Dyfrig ap Dafydd, meddyg teulu o feddygfa Coed-y-Glyn yn Llangefni ar Ynys Môn, mai ei bryder mwyaf ydy dynion ifanc yn cael problemau iechyd meddwl a phroblemau ymddygiad ar ôl cymryd y cyffuriau.

"Mae o'n fy synnu faint 'da ni yn cael o bobl sy'n dweud eu bod nhw wedi defnyddio [steroidau]," meddai.

"Dwi'm yn meddwl fod 'na lot o bobl sydd 'di defnyddio'r pethau 'ma dros amser 'sa'n medru dweud yn onest ac yn deg 'dio ddim wedi effeithio arna'i'.

"Mae pawb yn tueddu i weld yr effaith mewn gwahanol ffyrdd... hefo'r dynion ifanc yr ochr emosiynol a'r ochr rhywiol hefyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi datblygu a darparu hyfforddiant i asiantaethau yng Nghymru, "gan gynnwys adnabod arweinwyr steroidau".

Ychwanegon nhw eu bod "ar hyn o bryd yn buddsoddi dros £67m i wella gwasanaethau cymorth i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys y rhai sy'n camddefnyddio steroidau".

Pynciau cysylltiedig