Llys yr Eisteddfod yn diarddel Huw Edwards o Orsedd Cymru

Disgrifiad,

"Rwy’n eich herio chi i ddarlledu y sylwadau ola' hyn," medd Christine James wrth ohebydd y BBC, Aled Huw

  • Cyhoeddwyd

Mae Huw Edwards wedi cael ei ddiarddel o Orsedd Cymru, meddai’r Eisteddfod Genedlaethol.

Fe bleidleisiodd corff llywodraethol yr Eisteddfod yn unfrydol i derfynu aelodaeth Edwards o'r brifwyl brynhawn Iau.

Yr wythnos diwethaf fe blediodd cyn-brif gyflwynydd newyddion y BBC yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

Daw hyn ychydig oriau wedi i Gofiadur yr Orsedd ddweud bod y cwestiwn o derfynu aelodaeth Edwards wedi’i gyfeirio at lys yr Eisteddfod.

Cafodd Edwards, 62, ei dderbyn i'r Orsedd ddwy flynedd yn ôl, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron.

Does neb wedi cael eu diarddel o'r Orsedd dan y fath amgylchiadau o'r blaen.

Bydd gan Edwards 21 diwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Edwards ei dderbyn i'r Orsedd ddwy flynedd yn ôl

Yn gynharach ddydd Iau, yn dilyn cyfarfod cyffredinol yr Orsedd ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd, fe ddywedodd y Cofiadur, Christine James: "Mewn materion fel hyn mae’r orsedd yn ddarostyngedig i lys yr Eisteddfod."

Llys yr Eisteddfod, sy’n elusen, yw corff llywodraethol y brifwyl.

"Mae gan y llys broses deg a chytbwys sydd wedi cychwyn," medd Ms James.

"Ac er tegwch i bawb a rhag camarwain neb, nid yw’n briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.

"A byddwn yn ddiolchgar pe bai chi ddim yn camddyfynnu nac yn camddehongli y sylwadau hyn, ac rwy’n eich herio chi i ddarlledu y sylwadau ola' hyn."

Plediodd Edwards yn euog ar 31 Gorffennaf yn Llys Ynadon Westminster i dri chyhuddiad yn ymwneud â 41 o luniau a chlipiau fideo oedd wedi eu hanfon ato ar WhatsApp.

Bydd ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 16 Medi a bydd adroddiad prawf yn cael ei baratoi.

Dadansoddiad ein gohebydd, Aled Huw o'r Maes

Roedd yr Orsedd wedi trosglwyddo'r mater i lys yr Eisteddfod "er mwyn bod yn deg i bawb".

Ond mae'r ymadrodd "yn deg i bawb" wedi codi gwrychyn rhai.

Mae un unigolyn ddioddefodd gamdriniaeth rywiol yn blentyn yn dweud ei fod yn anfodlon iawn â'r modd y mae'r Orsedd wedi trin â'r mater a bod y sefydliad yn becso mwy am eu hunan.

Mae rheolau sefydlog yr Orsedd yn caniatáu galw pwyllgor brys i ddelio â materion o bwys ar frys, a chyfrifoldeb y llys yw diogelu enw da a gwerthoedd y brifwyl.

Fel mae'n digwydd roedd cyfarfod blynyddol y llys ar y Maes am 13:30.

Pynciau cysylltiedig