Huw Edwards yn pledio'n euog i greu lluniau anweddus o blant

Huw Edwards yn cyrraedd y llysFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Huw Edwards yn cyrraedd Llys Ynadon Westminster fore Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards, wedi pledio'n euog i greu delweddau anweddus o blant.

Fe blediodd yn euog i dri chyhuddiad yn ymwneud â 41 o luniau a chlipiau fideo oedd wedi eu hanfon ato ar WhatsApp.

Roedd saith delwedd yng nghategori A - y categori mwyaf difrifol - a dau o'r rhain yn cynnwys plentyn rhwng tua saith a naw oed.

Fe wnaeth Edwards, 62, ymddangos yn Llys Ynadon Westminster fore Mercher, ar ôl ei arest ym mis Tachwedd.

Bydd ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 16 Medi a bydd adroddiad prawf yn cael ei baratoi.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC eu bod wedi eu "syfrdanu gan weithredoedd Mr Edwards" a'u bod yn "cydymdeimlo â'r rhai sydd wedi eu heffeithio".

Mae Ysgrifennydd Diwylliant y DU wedi trefnu cyfarfod brys gyda chyfarwyddwr cyffredinol y BBC ynghylch ymateb y gorfforaeth i'r achos.

Fe wnaeth Edwards siarad i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad ac i ddweud ei fod yn pledio'n euog.

Clywodd y llys bod Edwards wedi bod yn rhan o sgwrs ar WhatsApp o fis Rhagfyr 2020 gydag oedolyn arall.

Fe wnaeth y dyn anfon 377 llun o natur rywiol ato, ac yn eu plith roedd 41 delwedd anweddus o blant.

Roedd mwyafrif y delweddau categori A yn cynnwys plant rhwng 13 a 15 oed, medd Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Roedd dau fideo'n cynnwys plentyn rhwng tua saith a naw oed.

Mae delweddau yng nghategori A yn dangos camdriniaeth ddifrifol, gan gynnwys cam-drin rhywiol treiddiol (penetrative).

Roedd gan Edwards 12 delwedd yng nghategori B, sy'n ymwneud â cham-drin rhywiol sydd ddim yn dreiddiol (non-penetrative), a 22 yng nghategori C, sy'n cynnwys delweddau anweddus eraill.

Roedd y delweddau yng nghategorïau B a C yn cynnwys plant rhwng 12 a 15 oed.

Ffynhonnell y llun, Julia Quenzler
Disgrifiad o’r llun,

Fe blediodd Edwards yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant

Cafodd y ddelwedd anweddus ddiweddaraf ei anfon yn Awst 2021 - sef ffilm yng nghategori A a oedd yn cynnwys bachgen ifanc.

Clywodd y llys bod y dyn wedi dweud wrth Edwards fod y bachgen yn ymddangos yn ifanc a bod ganddo ragor o luniau a oedd yn anghyfreithlon.

Dywedodd Mr Edwards wrtho am beidio anfon lluniau anghyfreithlon.

Ni chafodd rhagor o luniau eu hanfon, ac fe barhaodd y ddau gyfnewid lluniau pornograffig cyfreithlon tan Ebrill 2022.

Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae gan y drosedd creu delweddau anweddus ddiffiniad eang yn y gyfraith, a gall gynnwys eu derbyn trwy gyfryngau cymdeithasol.

Mae Heddlu'r Met bellach wedi cadarnhau mai Alex Williams, 25, oedd y dyn wnaeth rannu'r lluniau gydag Edwards.

Dywedodd y llu fod Williams wedi pledio'n euog i fod â delweddau categori A, B a C yn ei feddiant, yn ogystal â rhannu delweddau anweddus o blant.

Cafodd ei ddedfrydu i flwyddyn o garchar wedi ei ohirio yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 15 Mawrth.

Yn ôl yr heddlu, fe ddechreuodd yr ymchwiliad i weithgaredd Edwards ar ôl i ffôn gafodd ei gymryd gan swyddogion fel rhan o ymchwiliad arall ddangos fod Edwards yn rhan o sgwrs ar WhatsApp.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Huw Edwards yn gadael Llys Ynadon Westminster

Dywedodd bargyfreithiwr Edwards, Philip Evans KC wrth y llys: "Does dim awgrym yn yr achos yma bod Mr Edwards wedi... yn ystyr traddodiadol y gair, creu unrhyw fath o ddelwedd."

Ychwanegodd nad oedd Edwards "wedi cadw unrhyw ddelweddau, ddim wedi'u hanfon at unrhyw un arall a ddim wedi chwilio am ddelweddau tebyg yn unrhyw le arall".

Dywedodd Mr Evans hefyd bod y cyn-ddarlledwr wedi cael problemau iechyd "meddwl a chorfforol".

Dywedodd y bargyfreithiwr wrth y llys bod Edwards "nid yn unig o gymeriad da ond o gymeriad eithriadol".

Y BBC wedi eu 'syfrdanu'

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Mae'r BBC wedi eu syfrdanu gan y manylion ddaeth i'r amlwg yn y llys heddiw.

"Does dim lle i'r fath ymddygiad ffiaidd yma, ac mae ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio.

"Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad yw'r cyhuddiadau'n ymwneud â honiadau a gafodd eu codi gyda'r BBC yn ystod haf 2023, ond er hynny, ry'n ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig gwneud sylw ynglŷn â digwyddiadau y llynedd.

"Ym mis Tachwedd 2023, tra bod Mr Edwards wedi ei wahardd, cafodd y BBC wybod yn gyfrinachol ei fod wedi ei arestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau difrifol, a'i fod wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

"Ar y pryd, doedd Mr Edwards ddim wedi cael ei gyhuddo, ac roedd y BBC wedi cael gwybod am risg gwirioneddol i'w iechyd.

"Ddydd Mercher, fe gawsom ni wybod am gasgliadau prosesau'r heddlu wrth i'r manylion gael eu cyflwyno i'r llys.

"Pe bai Mr Edwards wedi cael ei gyhuddo ar unrhyw bryd tra'i fod yn cael ei gyflogi gan y BBC, roedd y gorfforaeth wedi penderfynu y bydda nhw wedi ei ddiswyddo yn syth. Yn y pendraw, pan ddaeth y cyhuddiad, doedd o ddim yn cael ei gyflogi gan y BBC.

"Yn ystod y cyfnod yma, fel yr arfer, mae'r BBC wedi cadw eu rheolaeth gorfforaethol o'r materion hyn ar wahân i'w gweithdrefnau golygyddol annibynnol."

Mae Ysgrifennydd Diwylliant y DU Lisa Nandy wedi galw cyfarfod brys gyda Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, er mwyn cael "rhagor o eglurder" am y sefyllfa.

Mae'r BBC ar ddeall eu bod yn debygol o gwrdd ddydd Iau.

'Trawma dwfn'

Cafodd Edwards ei arestio ym mis Tachwedd 2023 a'i gyhuddo fis diwethaf.

Dywedodd yr heddlu nad yw'r cyhuddiadau'n ymwneud â honiadau a gafodd eu hystyried ganddynt ym mis Gorffennaf 2023.

"Dyw'r honiadau ddim yn rhan o'r hyn a gafodd ei ystyried gan yr heddlu yng Ngorffennaf 2023. Mae'r honiadau yma wedi cael eu hymchwilio ar wahân ac yn achos ar ben ei hun," medd llefarydd.

Fe wnaeth Edwards adael y BBC ym mis Ebrill.

Mewn datganiad wedi'r gwrandawiad fore Mercher, dywedodd Claire Brinton o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS): "Mae edrych ar ddelweddau anweddus o blant yn caniatau i gam-drin plant yn rhywiol barhau, sy'n achosi trawma dwfn i'r dioddefwyr."

"Roedd modd i'r CPS a Heddlu'r Met brofi fod Edwards yn derbyn deunydd anghyfreithlon a oedd yn cynnwys plant dros WhatsApp."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.