Artist yn dileu murlun Huw Edwards yn Llangennech
- Cyhoeddwyd
Mae artist wedi paentio dros furlun o gyn-brif gyflwynydd newyddion y BBC Huw Edwards yn y pentref ble cafodd ei fagu ar ôl iddo bledio'n euog i greu delweddau anweddus o blant.
Roedd y murlun ymhlith cyfres a gafodd eu cwblhau yn Llangennech, ger Llanelli yn 2023.
Aeth yr artist Steve Jenkins ati i baentio drosto ddydd Mawrth wedi iddi ddod i'r amlwg ddechrau'r wythnos y byddai Edwards yn ymddangos yn y llys wedi i'r heddlu ddwyn cyhuddiadau yn ei erbyn.
Dywedodd Mr Jenkins ei bod hi'n "drueni i orfod gwneud e" ond bod y cyhuddiadau "yn warthus".
- Cyhoeddwyd1 Awst
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
Dywedodd Mr Jenkins, o Lanelli, ei fod wedi teimlo balchder wedi iddo greu'r murlun.
"Rwy'n teimlo tristwch mawr o orfod ei ddileu achos roedd y pentre' cyfan yn dwlu arno pan gafodd ei wneud.
"Y pentre' oedd sail y murlun a roedden ni'n meddwl bydde'n neis i gynnwys Huw ynddo."
Roedd y murlun ar wal tanffordd ac roedd Edwards wedi mynd yno i'w weld.
"Roedd yr hyfryd," meddai Mr Jenkins. "Daeth â'i fam yna i'w weld e a dyma pam mae hyn mor siomedig."
Dywedodd y Cynghorydd Gary Jones, sy'n cynrychioli Llangennech ar Gyngor Sir Gâr: "Roedd y murlun eisoes wedi cael ei difwyno - o glywed y newyddion diweddaraf fe benderfynodd yr artist graffiti i baentio dros y ddelwedd.
"Mae'r cyngor cymuned eisoes wedi symud ffotograff o Huw Edwards oedd yn y ganolfan gymuned."
Mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi cadarnhau fod plac am Edwards yng Nghanolfan Ddehongli Castell Caerdydd wedi cael ei dynnu.
Fe gyfaddefodd Edwards o fod ym meddiant 41 o ddelweddau anweddus o blant yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher.
Roedd y lluniau wedi cael eu hanfon at Edwards trwy WhatsApp gan ddyn 25 oed o Ferthyr Tudful, Alex Williams.
Dywedodd cymdogion wrth Newyddion S4C bod wedi cael sioc o glywed y newyddion, a'u bod yn "gwybod dim" bod llys wedi cael Williams yn euog o feddu ar luniau anweddus o blant a'u rhannu.
Ychwanegodd y cymdogion Williams, sy'n astudio mewn prifysgol, ei fod yn "mynd a dod" yn rheolaidd i gartref ei rhieni ond eu bod heb ei weld, na'i gar, yn yr eiddo ers rhai dyddiau.
Cwestiynau i'r BBC
Nos Iau fe gododd Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, Lisa Nandy, bryderon ynglyn ag ymchwiliad y BBC i Huw Edwards, yn ystod cyfarfod gyda chyfarwyddwr cyffredinol y gorfforaeth, Tim Davie.
Mae Mr Davie wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio â diswyddo’r cyflwynydd newyddion, er ei fod yn gwybod ym mis Tachwedd ei fod wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â delweddau anweddus o blant.
Dywedodd Mr Davie bod yr heddlu heb roi manylion llawn yr achos i'r BBC, a bod rheolwyr ddim yn ymwybodol o oedran y plant yn y delweddau.
Dywedodd llefarydd ar ran Ms Nandy ei bod wedi gofyn am sicrwydd bod gan y gorfforaeth "brosesau cadarn [o ran] delio â materion cytundebol cymhleth" fel bod modd "gweithredu'n gyflym a bod yn dryloyw gyda'r cyhoedd ar y cyfle cyntaf i sicrhau ymddiriedaeth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf