'Cychwyn proses' ar derfynu aelodaeth Huw Edwards

Huw Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Huw Edwards ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Tregaron ddwy flynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Gorsedd Cymru wedi cadarnhau bod proses o derfynu aelodaeth wedi dechrau yn dilyn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol i drafod diarddel y cyn-ddarlledwr Huw Edwards.

Yr wythnos ddiwethaf fe blediodd cyn-brif gyflwynydd newyddion y BBC yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

Yn dilyn y cyfarfod caeedig, fe gafodd datganiad ei ryddhau i'r wasg gan yr Eisteddfod ar ran y Cofiadur, Christine James, dan y teitl 'Terfynu aelodaeth o'r Orsedd'.

Dywed y datganiad un llinell: "Mae proses wedi cychwyn ac nid yw’n briodol i Orsedd Cymru wneud unrhyw sylw pellach tan i’r broses ddod i derfyn."

Bydd gofyn i unrhyw benderfyniad gael ei gytuno arno yng nghyfarfod cyffredinol yr Orsedd, sy'n cael ei gynnal ddydd Iau.

Cafodd Edwards, 62, ei dderbyn i'r Orsedd ddwy flynedd yn ôl, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Huw Edwards yn gadael Llys Ynadon Westminster ar ôl pledio'n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant

Fe gafodd Edwards ei arestio fis Tachwedd y llynedd a'i gyhuddo'n ffurfiol gan Heddlu'r Met ar 26 Mehefin.

Wrth gadarnhau y byddai'n ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher diwethaf, fe ddywedodd yr heddlu bod y cyhuddiadau'n ymwneud â 41 o luniau a chlipiau fideo oedd wedi eu hanfon ato ar WhatsApp.

O'r rheiny, roedd saith delwedd yn rhai categori A - y categori mwyaf difrifol. Roedd 12 yn luniau categori B ac 19 yng nghategori C.

Clywodd y gwrandawiad, ble y plediodd yn euog i'r tri chyhuddiad, bod mwyafrif y delweddau categori A yn cynnwys plant rhwng 13 a 15 oed.

Roedd dau fideo'n cynnwys plentyn rhwng tua saith a naw oed, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Bydd adroddiad prawf yn cael ei baratoi ar gyfer ei ymddangosiad llys nesaf ar 16 Medi.

Daeth cadarnhad ym mis Ebrill fod Edwards yn gadael y BBC ar sail meddygol.