Carcharu dyn wnaeth ddwyn o orsaf danwydd yn Wrecsam

Corey LiFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Corey Li i orsaf danwydd Asda ar Ffordd Wrecsam yn ymyl ei gartref a gorchymyn y gweithiwr yno i agor y til

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn, 23, a wnaeth ladrata o orsaf danwydd yn Wrecsam wedi ei garcharu am dair blynedd a naw mis

Aeth Corey Li, o Rostyllen, i orsaf danwydd Asda ar Ffordd Wrecsam yn ymyl ei gartref yn ystod oriau mân 9 Mehefin, a gorchymyn y gweithiwr yno i agor y til.

Fe wnaeth Li, oedd wedi gorchuddio ei wyneb efo mwgwd ac oedd â dryll tanio ffug, anelu’r dryll tuag at ben y gweithiwr cyn tanio’r dryll i’r ochr.

Yna, mi gymerodd £85 mewn arian parod o’r til, ac mi lenwodd fag gyda gwerth dros £1,000 o dybaco ac e-sigaréts cyn dianc.

Mi ymddangosodd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau ar gyfer ei ddedfrydu, wedi iddo gyfaddef y cyhuddiad o ladrad yn ystod gwrandawiad blaenorol.

Mae ail unigolyn sy'n gysylltiedig â’r digwyddiad yn dal i fod yn anhysbys.

Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Andrew Vaughan: “’Roedd hwn yn brofiad brawychus a gofidus i’r dioddefwr, a gafodd ei fygwth efo dryll tra wrth ei waith.

“Mae digwyddiadau fel hyn yn anghyffredin iawn yn Wrecsam, a 'does gen i ddim amheuaeth bod Wrecsam yn gymuned mwy diogel efo Li yn y carchar.

“Mae’r ail unigolyn sy'n gysylltiedig â’r digwyddiad yn dal i fod yn anhysbys, ac rydyn ni’n parhau i annog unrhyw un efo gwybodaeth i gysylltu â ni."

Pynciau cysylltiedig