Arwel Gruffydd: 'Braint' bod nôl ar lwyfan yn perfformio

Arwel GruffyddFfynhonnell y llun, Arwel Gruffyddd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwel Gruffydd yn dychwelyd i'r llwyfan ar ôl 14 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Wedi 14 o flynyddoedd mae'r actor Arwel Gruffydd wedi dychwelyd i berfformio ar lwyfan.

Bu'n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru rhwng 2011 a 2022 ac mae'n wyneb cyfarwydd iawn fel actor ffilmiau a dramâu teledu'r sgrin Gymreig.

Roedd yn chwarae'r brif ran yn Cyw Haul, Bob a'i Fam a Threflan gan gynnwys sawl drama arall ar y sgrin fach dros y blynyddoedd.

Ar hyn o bryd mae ar daith gyda chwmni Company of Sirens ac yn perfformio yn nrama Waterwars gan Ian Rowlands gyda Siwan Morris, Jâms Thomas, ac hefyd Luke Mulloy yn rhan o'r cast.

Wrth siarad ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru, roedd Arwel Gruffydd yn dweud ei bod hi'n "fraint" cael bod nôl ar y llwyfan yn perfformio.

'Chwarae'

"Dwi'n teimlo ei bod hi'n fraint rhwysut, nid yn unig fy mod yn cael bod mewn drama fendigedig, efo geiria coeth a themâu dyrys i'w harchwilio, ond jest y fraint yna o gael chwarae efo cyd-actorion a rŵan yn cael teithio Cymru.

"Dwi'n teimlo fy mod i nôl yn y cae chware rhywsut ar ôl bod yn y swyddfa yn hir iawn," meddai.

Mae'r ddrama Waterwars yn delio â'r dyfodol agos dystopaidd, pan fydd prinder dŵr byd-eang yn creu gwrthdaro gwleidyddol a brad bersonol. Wrth i brinder adnoddau rwygo cymunedau i ddarnau, mae'r ddrama yn ymholi gwerthoedd dynol, gwerth goroesi a'r effaith o ddirywiad amgylcheddol ar gymdeithas.

Yn rhan o'i gyfnod gyda'r Theatr Genedlaethol, roedd Arwel hefyd yn cael cyfnodau hir o gyfarwyddo dramâu.

Mae'n esbonio fod dod ag elfen o chwarae i mewn i gynhyrchiad yn rhan bwysig o'i waith.

"Pan dwi yn cyfarwyddo mae'n bwysig i mi ddod a syniad o chwarae i mewn i'r ystafell ymarfer, ond mae rhywun yn gallu chwarae lot mwy unwaith mae rhywun yn rhydd o'r cyfrifoldeb yna.

"Mae o'n gyfrifoldeb mawr, pan mae rhywun yn actio, mae ganddyn nhw gyfrifoldeb dros gymeriad ei hun, dysgu llinellau, troi fyny ar amser a dyna ni ac mae hynny yn beth braf iawn," meddai.

Siwan Morris, Arwel Gruffydd, Ffion Dafis a Jâms Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwel yn cymryd rhan yn y ddrama lwyfan Waterwars gyda Siwan Morris a Jâms Thomas

Un perfformiad diweddar sy'n agos iawn at galon Arwel yw ei ymddangosiad yn y ddrama Lost Boys and Fairies.

Roedd Arwel yn chwarae rhan Berwyn yn y ddrama, ac roedd yn teimlo'n falch o allu cyd-weithio unwaith eto gyda'r dramodydd a'r actor, Daf James.

Roedd gan Arwel atgofion melys iawn o gyd-weithio ar y ddrama Llwyth a Thylwyth, ac roedd yn falch iawn o allu gweld llwyddiant a thebygrwydd themâu Lost Boys and Fairies gyda'r ddwy ddrama.

"Mi oedd cael bod yn rhan o'r siwrne gyda fo (Daf James) yn Lost Boys and Fairies yn rhyfeddol a deud y gwir ac yn fraint aruthrol.

"Does 'na ddim llawer o ddramâu teledu am wn i ble mae rhywun yn teimlo angerdd dros y gwaith ei hun, ac yn teimlo fod hon yn ddrama bwysig, dwi eisiau bod yn rhan o'r prosiect yma am ei bod hi'n deud rhywbeth difyr a diddorol a phwysig.

"Mae 'na le i adloniant pur hefyd a dwi wrth fy modd yn cymryd rhan mewn pob math o brosiectau theatr a theledu ond pan mae rhywun yn cymryd rhan mewn rhywbeth sy'n teimlo'n bwysig i rywun, mae hyn yn eisin ar y gacen rhywsut," meddai.

'Canolbwyntio ar actio'

Wrth edrych i'r dyfodol, "parhau i chwarae a mwynhau fy hun" yw neges Arwel.

"Dwi ddim wedi troi fy nghefn yn llwyr ar gyfarwyddo, ond dwi'n trio fy ngorau i ganolbwyntio mwy ar yr actio dyddiau yma.

"Dwi'n troi fy llaw at sgwennu hefyd ac mae'n braf iawn i gael mwy o amser i neud hynny," meddai.

Ond roedd Arwel yn pwysleisio cyfnod argyfyngus byd y theatr yn y Gymraeg.

"Mae'r safon yn cynyddu, pob dim yn gwella o ran safon. Mae byd y ddrama Gymraeg wedi ei phroffesiynoli ers rhai degawdau, does bosib felly ein bod ni'n elwa o hynny, ond mae hi'n gyfnod argyfyngus ddeud gwir ac mae o'n bwysig ein bod ni'n cefnogi'r talent yna sy'n dod drwodd," meddai.

Pynciau cysylltiedig