3 Llun: Lluniau pwysicaf Arwel Gruffydd
- Cyhoeddwyd
Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?
Yr actor a chyfarwyddwr Arwel Gruffydd sydd yn trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma.
Unwaith y flwyddyn, pan yn blant, mi fyddwn i a fy chwaer, Nia, yn cael dillad dydd Sul newydd, a hynny ar gyfer Y Gymanfa; achlysur blynyddol o gryn bwys ym mro fy mebyd yn y cyfnod hwnnw.
Dyma fi (yn ddwy... a thri chwarter!) a Nia (yn naw... a hanner!) yn ein dillad newydd cyn ein bod yn ymuno â phlant Ysgol Sul Capel Carmel, Tanygrisiau, yng ngorymdaith Cymanfa Ganu’r Annibynwyr, Bro Ffestiniog, Mai 1970.
Nid yn unig ydw i’n hoff o’r llun am fod y ddau ohonom yn amlwg yn mwynhau’r achlysur ac wrth ein bodd efo’n dillad newydd, ond am ei fod rhywsut yn cynrychioli fy magwraeth hynod hapus, hynod ffodus; aelwyd gariadus a chymuned a oedd yn ferw gwyllt o ddiwylliant.
Yn ogystal â’r llu o weithgareddau a oedd yn gysylltiedig â’r capel yn y cyfnod hwnnw, roedd yr ardal yn fwrlwm o eisteddfodau a chyngherddau, o gorau a bandiau, ac o garnifals a nosweithiau llawen.
Ac mi roeddwn innau, o’r cychwyn cyntaf, wastad yn ei chanol hi! Does fawr ryfedd fy mod wedi dewis gyrfa, maes o law, yn y byd celfyddydol.
Dyma’r llun cyntaf erioed dynnwyd ohona i a fy mhartner efo’n gilydd, a hynny yn y flwyddyn 2000 yng Nghaernarfon, yn nhŷ fy ffrind mynwesol, Bet (mae’n siŵr mai hi dynnodd y llun).
Roeddwn i ers 'chydig fisoedd wedi symud o Gaernarfon i Gaerdydd i fyw, ac wedi dod yn ôl i’r Gogledd i ymweld â ffrindiau a theulu... efo’r cariad newydd!
Roeddem ar gychwyn siwrnai bryd hynny (dwi’n meddwl bod arwydd o hynny yn ein llygaid), un sydd wedi para bron i ddau ddegawd a hanner hyd yn hyn, ac un lle mae Stephen, yn ddi-baid, wedi bod yn graig o gyngor a chefnogaeth, ac wedi rhoi imi fôr o gariad.
Ac mae wedi dod i hyn! Dyma un o’r lluniau mwyaf diweddar ohona’ i yn fy mywyd proffesiynol, y diweddaraf o’r cymeriadau amrywiol dwi wedi cael y pleser o’u creu a’u cyd-greu dros 37 o flynyddoedd ym myd y ddrama.
Fanny Ample ydi hi; cymeriad o fewn cymeriad, mewn gwirionedd, sef alter-ego Berwyn, y cymeriad lliwgar ac addfwyn ges i’r fraint o’i bortreadu yn y gyfres ddrama ddiweddar i’r BBC, Lost Boys and Fairies, gan ffrind mynwesol arall, Dafydd James.
Dyma un o’r profiadau proffesiynol mwyaf difyr a chyfoethog dwi wedi ei gael hyd yma; gyda sgript eithriadol, sy’n delio (yn rhannol, o leiaf) mewn ffordd mor onest a thwymgalon â rhywbeth sydd mor agos at fy nghalon, yn wir sydd wrth wraidd fy hunaniaeth, sef yr her a’r rhyfeddod o fod yn Gymro Cymraeg ac o fod yn ddyn hoyw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2024