Naomi Allsworth: 'Mae bod tu fas yn fath o therapi'

Naomi AllsworthFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Naomi Allsworth

  • Cyhoeddwyd

"Mae bod tu fas a gwybod beth all y tir gynnig i ni nid jyst o ran bwyd ond hefyd iechyd meddwl yn bwerus iawn, ac ry' ni wedi colli hynny."

Dyma neges Naomi Allsworth o Grymych sy'n arbenigwr ar oroesi yn y gwyllt ac i'w gweld ar hyn o bryd fel mentor ar Tŷ Ffit ar S4C.

Mae'r gyfres yn dilyn unigolion sy'n awyddus i drawsnewid eu bywydau a gôl Naomi yw i ail-gyflwyno byd natur i'r pump sy'n cymryd rhan, fel mae'n esbonio wrth Cymru Fyw: "Mae bod tu fas mewn byd natur yn fath o therapi heb orfodi pobl i eistedd a siarad.

"Mae e'n rhywbeth ni wedi neud yn hanesyddol sy'n iachusol ac yn ffordd naturiol o therapi a ni wedi colli hynny ac wedi datgysylltu cymaint gyda bod tu fas.

"Mae cael y cysylltiad yna eto yn bwysig. Y mwyaf ni'n dibynnu ar dechnoleg y mwya' sy' angen y cysylltiad 'na 'da natur i helpu ein iechyd meddwl ni. Mae gwylio rhywun yn creu tân a defnyddio dulliau traddodiadol yn rewarding iawn ond ni ddim yn gwneud hynny rhagor."

Naomi AllsworthFfynhonnell y llun, Naomi Allsworth

Mentora

Nid dyma'r tro cyntaf i Naomi ymddangos ar gyfres realiti gan ei bod wedi dod yn ail yng nghyfres Channel 4, Alive, ar ôl gwynebu arth ar ei phen ei hun yng Nghanada.

Ond dyma'r tro cyntaf iddi fod yn fentor ac mae'n brofiad mae hi wedi mwynhau.

"Mae wedi bod yn wych – cwrdd â phobl mor anhygoel ac mae gallu helpu pobl mewn ffordd fach wedi bod yn arbennig.

"'Nes i ddysgu cymaint wrthi nhw hefyd.

"Dyw deiet a iechyd ddim yn ran o'n gefndir i o gwbl ond rhan fawr o fy rôl yw deall sut fydden ni'n cael bwyd o'r tir yn hanesyddol – pysgota, hela ac ati. Mae gallu mynd yn ôl at y pethau sylfaenol yn wych – planhigion, paratoi cig a physgod a chael cysylltiad gyda'r bwyd.

"Mae gymaint o ddatgysylltu wedi bod gyda'r bwyd ni'n bwyta. Ni'n cerdded mewn i siop a dyw bwyd ddim yn edrych fel y bwyd ni'n dala. Dyw plant ddim rili yn deall y bwyd ni'n rhoi ar ein platiau ni rhagor. Mae cael y cysylltiad 'na efo bwyd yn rial bwysig.

"Fel 'na oedden ni yn byw yn hanesyddol ac roedd problemau iechyd meddwl ddim mor ddrwg bryd hynny a doedd dim eisiau deiet."

Naomi AllsworthFfynhonnell y llun, Naomi Allsworth
Disgrifiad o’r llun,

Naomi Allsworth

Trawsnewid

Newidiodd Naomi ei gyrfa o fod yn gynllunydd dillad i gynnal cyrsiau goroesi mewn natur ar ôl iddi fynychu cwrs sgiliau goroesi gan Academi Bear Grylls. Erbyn hyn mae hi'n fam ac yn rhedeg y sefydliad The Rambler's Mistress, sy'n dod â menywod at ei gilydd a'u trochi mewn byd natur.

Ar ôl astudio i ddylunio dillad chwaraeon yn y brifysgol yn Llundain, sylweddolodd Naomi, sy'n 27 oed, fod hi'n mwynhau profi'r dillad mewn lleoliadau heriol: "O'n i'n dwlu ar sut oedd gwyddoniaeth a technegol o fewn dillad yn gallu newid perfformiad rhywun.

"Bues i mas mewn llefydd heriol fel anialwch Sahara a mynydd Everest i brofi dillad fy hun a 'nes i gwympo mewn cariad gyda'r broses o brofi dillad.

"Ers hynny 'nes i jest gymryd her ar ôl her. O'n i moyn bod tu fas a bod y person o'n i'n dylunio i.

"Erbyn hyn dwi'n gweithio 'da pobl bron bob dydd o blant i oedolion a chyn filwyr ac yn rhoi nhw mewn sefyllfaoedd anghyfforddus. Dwi'n gweithio mewn ardaloedd mwyaf heriol y byd o goedwigoedd Panama i ynysoedd yr Arctig.

"Mae convenience o'n amgylch ni o hyd – tai twym a digon o ddillad ond mae cymryd y pethau 'na bant a delio 'da beth sy' gyda'r tir i gynnig yn anghyfforddus - ond yn beth llesol - i rhan fwya' o bobl."

Wedi i raglen Alive godi ei phroffil mae Naomi wedi defnyddio y cyfle i rannu ei stori, fel mae'n sôn: "Dwi'n siarad yn gyhoeddus yn rhannu straeon merched anhygoel o hanes 'nath gwahanol heriau fel y merch gyntaf i ddringo mynydd Everest. 'Nath ei stori hi byth cael ei ddweud achos roedd y dynion cyntaf yr un flwyddyn.

"Gôl fi yw i ysbrydoli mwy o ferched ifanc a menywod ac i ddangos be' sy' gan yr awyr agored i gynnig ac iddyn nhw ddarganfod pa mor gryf maen nhw'n gallu bod yn yr awyr agored.

"Dwi eisiau i bobl ddeall faint mor gryf ydy nhw heb angen dim byd na neb arall. Sym angen dringo Everest i ddysgu hynny ond bod tu fas a gwybod beth all y tir gynnig i ni."

Naomi AllsworthFfynhonnell y llun, Naomi Allsworth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Naomi yn arwain cyrsiau goroesi yn y gwyllt

Rhwystrau

Y prif rhwystrau sy'n atal pobl rhag trawsnewid eu bywyd ar Tŷ Ffit ac mewn bywyd arferol, yn ôl Naomi, yw arferion gwael: "Y blockers yw rwtin a rwtin sy' ddim yn dda i ni.

"Mae habits yn bethau ni'n gweld yn negyddol ond mae cael habits da yn positif. Mae gymaint o opsiynau o amgylch ni. Mae trio deiet neu supplement newydd neu trend newydd yn ffordd rhwydd o neud e – 'na beth sy' arlein. Rheina yw'r blocks rili, sef cwympo mewn i habits wael."

Cyngor Naomi

"Ewch tu fas, darganfod sut chi'n teimlo o fod tu fas a sut mae'n gallu newid eich ddydd chi i'r gorau. Mae wir yn neud gwahaniaeth – o bum munud y dydd i awr o wac ar y penwythnos.

"Mae cael y cysylltiad 'na eto gyda'r tir ni'n byw ac hefyd datgysylltu gyda technoleg yn gallu newid sut gymaint."

Gwyliwch Tŷ Ffit ar S4C neu ar BBC iplayer.

Pynciau cysylltiedig